Mae Cyngor Sir Powys wedi cadarnhau na fydd ysgolion ym Mhowys yn symud i wythnos pedwar diwrnod i leihau costau rhedeg.

Er mwyn helpu i gefnogi ysgolion gyda’r pwysau maen nhw’n eu hwynebu oherwydd costau ynni a chwyddiant cynyddol, mae’r cyngor wedi llunio pecyn cymorth rheoli ariannol sy’n cynnwys syniadau ar sut i leihau costau’r ysgol.

Un o’r opsiynau posib gafodd ei gynnig mewn achosion eithafol oedd wythnos ysgol pedwar diwrnod gyda’r pumed diwrnod yn symud i ddysgu ar-lein.

Ond mae’r dewis hwn bellach wedi’i ddileu gan y cyngor.

Argyfwng costau byw

“Mae canlyniad yr argyfwng costau byw cenedlaethol a chostau sy’n cynyddu’n barhaus yn cael effaith ar bob cartref, busnes, ysgol a chorff cyhoeddus ledled y Deyrnas Unedig,” meddai’r Cynghorydd Pete Roberts, yr Aelod Cabinet ar gyfer Powys sy’n Dysgu.

“Rydym nawr yn disgwyl gweld effaith lawn y cynnydd mewn prisiau ynni dros y flwyddyn ariannol nesaf.

“Mae’n hanfodol fod ysgolion yn ymwybodol o ddifrifoldeb y sefyllfa sy’n eu hwynebu wrth baratoi eu cyllidebau.

“Dyna pam y gwnaeth y cyngor baratoi pecyn cymorth rheoli ariannol ar gyfer ysgolion oedd yn cynnwys data a syniadau cymharu cyllidebol manwl ar sut i leihau costau o amgylch yr ysgol.

“Wythnos ysgol pedwar diwrnod oedd y mwyaf eithafol o’r opsiynau hyn.

“Fodd bynnag, mae’r cyngor wedi dileu’r opsiwn hwn o’r pecyn cymorth yn dilyn cyngor gan Lywodraeth Cymru, nad oedd yn gefnogol o ysgolion yn symud i wythnos pedwar diwrnod ar hyn o bryd.

“Nid yw’r penderfyniad hwn yn golygu bod yr her ariannol wedi gwella’n sylfaenol dim ond bod un dewis yn llai ar y bwrdd.

“Byddwn yn parhau i gefnogi ein hysgolion ac yn edrych ar opsiynau i leihau eu costau rhedeg na fydd yn cael effaith ar ein dysgwyr.”