Bydd terfynau cyflymder 20m.y.a yn cael eu dileu mewn rhai rhannau o Sir Fynwy yn sgil pryderon eu bod nhw’n achosi tagfeydd gwaeth.
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn tybio mai dyma ddechrau “gwrthwynebiad eang” i reolau terfyn cyflymder 20m.y.a.
Ychydig fisoedd ar ôl y newid, bydd terfynau cyflymder 30m.y.a yn dychwelyd i ddwy ffordd yn nhref Cil-y-coed yn y sir.
O fis Medi y flwyddyn nesaf, bydd terfynau cyflymder 20m.y.a yn dod i rym mewn ardaloedd preswyl dros Gymru.
Ond yn Sir Fynwy, bydd y Cyngor yn gwario £100,000 i ddadwneud y terfyn cyflymder 20m.y.a gafodd ei gyflwyno fel rhan o beilot gan Lywodraeth Cymru.
Yn ôl y Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cadarnhau’r rheolau ar derfynau cyflymder yn Sir Fynwy.
‘Dechrau gwrthwynebiad eang’
“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud ers tro bod terfynau cyflymder 20m.y.a yn gallu bod yn addas mewn rhai ardaloedd megis tu allan i ysgolion a chaeau chwarae, ond mae gorfodi cynghorau i wario miloedd o bunnoedd i roi trefn ar y gyfraith ddi-sail hon yn dangos na ddylid bod wedi’i phasio yn y lle cyntaf,” meddai Natasha Asghar, llefarydd trafnidiaeth y blaid.
“Mae Llafur wedi cyfaddef yn barod y bydd y polisi hwn yn costio swm syfrdanol o £4.5bn i economi Cymru, gan brofi bod bod yn wrth-yrwyr yn wrth-dyfiant.
“Yn y cyfamser, dydy’r farn gyhoeddus heb fod yn amlwg o blaid newid, gyda nifer o bobol dros Gymru’n teimlo na chawson nhw gyfle i ddweud eu dweud, ac adroddiad newydd yn codi amheuon ynglŷn â faint o fywydau y byddai’n eu harbed.
“Mae angen i weinidogion Llafur stopio gorfodi mesurau cyfyngiadol ar ddefnyddwyr y ffordd a chanolbwyntio ar sicrhau bod gan Gymru system drafnidiaeth gyhoeddus sy’n addas i’r 21ain ganrif.”