Dydy’r gostyngiad yng nghanran y rhai sy’n ystyried eu hunain yn Gristnogion yng Nghymru ddim yn annisgwyl, yn ôl Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.

Yn ôl ystadegau Cyfrifiad 2021, 43.6% o boblogaeth Cymru sy’n ystyried eu hunain yn Gristnogion.

Mae hynny’n ostyngiad o 14% ers y cyfrifiad diwethaf yn 2011.

Cynyddodd y nifer ddywedodd nad ydyn nhw’n dilyn unrhyw grefydd gan 14% hefyd, o 32.1% i 46.5%.

‘Dal dan ddylanwad Cristnogaeth’

Wrth ymateb i’r ystadegau, dywed y Parchedig Beti-Wyn James, Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymru, fod y ffaith fod cynifer o gapeli ac eglwysi wedi cau dros y degawd diwethaf yn “dyst gweladwy” i’r gostyngiad, wrth i gymdeithas droi’n fwy seciwlar.

“O ystyried hynny, mae’n ffaith ryfeddol bod miliwn a chwarter o bobol Cymru’n dal i alw eu hunain yn Gristnogion,” meddai wrth golwg360.

“Mae’n amlwg bod miloedd di-ri o bobol nad ydynt mwyach yn mynychu addoldy yn dal i deimlo teyrngarwch tuag at grefydd fore oes trwy ddisgrifio eu hunain fel Cristnogion ar ffurflen y Cyfrifiad.

“Mae’n eithaf tebyg hefyd bod nifer o’r rhai ddywedodd nad ydynt bellach yn dilyn unrhyw grefydd yn dal i fod o dan ddylanwad capel, eglwys ac Ysgol Sul.

“Bydd rhaid i’r grefydd Gristnogol farw allan yn llwyr yng Nghymru cyn bod y dylanwad yna’n darfod.

“Hyderwn na fydd hynny fyth yn digwydd.”

Ynys Môn, Sir Conwy a Sir Fflint oedd yr unig ardaloedd yng Nghymru lle roedd dros hanner y boblogaeth yn galw eu hunain yn Gristnogion.

Roedd y ganran isaf o bobol sy’n galw eu hunain yn Gristnogion ym Mlaenau Gwent (36.5% o gymharu â 49.9% yn 2011) a Chaerffili (36.4% o gymharu ag ychydig dros 50%).

Dywedodd 66,950 o bobol mai Mwslemiaid ydyn nhw, roedd 12,248 yn disgrifio’u hunain fel Hindwiaid, a 2,044 fel Iddewon.