Byddai cyflwyno terfyn cyflymder o 20m.y.a. ledled Cymru’n arbed £100m mewn blwyddyn, ac fe fyddai nifer y marwolaethau ac anafiadau ar y ffyrdd yn gostwng yn sylweddol, yn ôl ymchwil newydd.
Mae’r ymchwil yn cael ei chyhoeddi heddiw (dydd Llun, Tachwedd 7), ac mae’n dangos cefnogaeth barhaus ymhlith y cyhoedd i’r syniad o gyflwyno terfyn cyflymder o 20m.y.a. y flwyddyn nesaf, a hynny am y tro cyntaf yn y Deyrnas Unedig.
Bydd Llywodraeth Cymru’n cyflwyno’r terfyn cyflymder newydd ar rai ffyrdd o fis Medi y flwyddyn newydd, a’r rheiny yn cynnwys heolydd lle mae goleuadau stryd sydd fel arfer mewn ardaloedd preswyl a phrysur sydd â nifer fawr o gerddwyr.
Mae’r ymchwil wedi’i chwblhau gan Sefydliad Ymchwil Trafnidiaeth Prifysgol Napier Caeredin, sydd wedi bod yn cydweithio â Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae’r swm o £100m mae disgwyl i’r terfyn cyflymder ei arbed wedi cael ei amcangyfrif ar sail llai o farwolaethau ac anafiadau, ac mae disgwyl i gam o’r fath arbed dros 100 o fywydau dros gyfnod o ddegawd, a chyfanswm o 14,000 o anafiadau y byddai modd eu hosgoi.
Yn ôl arolwg gan sefydliad Ymchwil Beaufort ar ran Llywodraeth Cymru, mae’r rhan fwyaf o’r bobol wnaeth ymateb o blaid cyflwyno terfyn cyflymder is, gyda bron i ddau draean o blaid terfyn cyflymder yn eu hardaloedd eu hunain, a 62% yn dweud eu bod nhw eisiau i yrwyr arafu ar y ffyrdd.
Dywedodd 64% y byddai gostwng y terfyn yn gwneud y ffyrdd yn “fwy diogel i gerddwyr”, tra bod 57% yn cytuno y byddai terfyn cyflymder o 20m.y.a. yn golygu “llai o wrthdrawiadau difrifol ar y ffyrdd”.
Roedd 47% o’r farn y byddai terfyn cyflymder o 20m.y.a. yn gwneud y ffyrdd yn fwy diogel i seiclwyr.
‘Tystiolaeth glir iawn’
“Mae’r dystiolaeth o bob cwr o’r byd yn glir iawn – mae gostwng terfynau cyflymder yn lleihau gwrthdrawiadau ac yn achub bywydau,” meddai Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Cymru.
“Mae arafu traffig hefyd yn creu amgylchedd mwy diogel a chroesawgar, gan roi’r hyder i bobol gerdded a beicio fwy.
“Bydd hynny’n helpu i wella ein hiechyd a’n lles, ac yn helpu i wella’r amgylchedd.
“Mae’r ymchwil newydd yn dangos yr arbedion o ran gostwng y nifer sy’n cael eu lladd neu eu hanafu ond mae manteision y terfyn o 20mya yn golygu llawer mwy na hynny.
“Mae’r adroddiad yn awgrymu y bydd y terfyn cyflymder is yn helpu i annog gweithgarwch corfforol, fydd yn ei dro yn helpu i leihau gordewdra, straen a phryder.
“Fel gydag unrhyw newid, rydyn ni’n gwybod y bydd angen amser ar bobol i addasu.
“Ond rwy’n falch o weld o’r arwyddion cynnar bod y rhan fwyaf o bobl o blaid 20m.y.a. ac rwy’n hyderus, os ydyn ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd, y gallwn wneud y newidiadau angenrheidiol a fydd o les i ni nawr ac yn y dyfodol.”