Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod Llywodraeth Cymru “wedi colli cyfle” i ddatganoli darlledu i Gymru.

Daw hyn yn dilyn sylwadau Carwyn Jones ar raglen Hawl i Holi y BBC nos Iau (Tachwedd 3), wrth ddweud bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cynnig datganoli S4C i Gymru.

Fe ddywedodd fod Jeremy Hunt, yr Ysgrifennydd Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn San Steffan rhwng 2010 a 2012, wedi cynnig datganoli darlledu i Gymru ond “heb y gyllideb a heb geiniog”.

Dywedodd y byddai wedi bod yn barod i ddatganoli darlledu pe bai arian wedi cael ei gynnig.

“Os byddai ffynhonell gynaliadwy wedi bod ar gael, pam fydden ni ddim wedi cymryd e? Ond doedd yna ddim, a dyna beth oedd y broblem,” meddai.

Yn ôl LLywodraeth y Deyrnas, mae hi’n “gwneud synnwyr bod polisi darlledu clir a chyson yn cael ei redeg yn genedlaethol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig”, ac maen nhw “wedi ymrwymo i barhau i gefnogi rôl hollbwysig S4C wrth warchod yr iaith Gymraeg a’i diwylliant a’r economi”.

‘Dim diddordeb’

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dangos ers blynyddoedd nad oes ganddyn nhw “ddim diddordeb” yn S4C.

“Yn 2010, torrwyd cyllid S4C yn sylweddol a bellach mae ei chyllid yn dod trwy’r BBC,” meddai Carl Morris, cadeirydd Grŵp Digidol Cymdeithas yr Iaith.

“Mae’r sianel hefyd yn rhannu nifer o adnoddau gyda’r BBC.

“Dydy hi fawr o syndod bod San Steffan eisiau golchi dwylo o’r sianel.

“Ond collodd Llywodraeth Cymru gyfle, ac mae S4C wedi derbyn toriadau pellach yn y cyfamser.

“Er nad oedd cyllid yn cael ei gynnig gyda’r sianel byddai ffyrdd eraill o’i hariannu, fel codi treth ar wasanaethau rhyngrwyd a chwmnïau telathrebu neu godi ardoll ar gwmnïau ffrydio.

“Mae darparwyr rhyngrwyd a chwmnïau telathrebu yn enwedig yn parhau i weld cynnydd sylweddol yn eu helw, a byddai modd defnyddio’r arian sy’n cael ei godi i ehangu darlledu Cymraeg.

“Mae mawr angen mwy o ddeunydd Cymraeg ar-lein ac iddo fod yn fwy gweladwy ac rydyn ni wedi argymell creu Menter Ddigidol Gymraeg i wneud y gwaith yma.

“Byddai’r arian o drethi neu ardollau yn gallu cael eu defnyddio ar gyfer hynny hefyd.

“Byddai angen rhoi pwerau trethu i Gymru hefyd er mwyn gwneud wrth gwrs.

“Ond petai’r Llywodraeth o ddifri eisiau cyfrifoldeb dros S4C a darlledu Cymraeg bydden nhw wedi dod o hyd i ffordd.”