Mae Patrick Casper yn 43 mlwydd oed, yn ddigartref ac yn aros mewn pabell mewn coedwig ym Methesda.

Dywed ei fod eistedd ger Londis yn chwarae’r harmonica i gael pres a bwyd, am y rheswm fod peiriant coffi yno.

Mae’n mynd trwy finiau i chwilio am fwyd, ac mae hefyd yn mynd i fanciau bwyd.

“Ro’n i’n byw ym Mangor am ychydig flynyddoedd,” meddai wrth golwg360.

“Oherwydd bod mab fy nghariad wedi colli ei swydd ym Manceinion oherwydd Covid, roedd rhaid iddo ddod adref i Fangor.

“Ymosododd mab fy nghariad arnaf, ac roedd rhaid i mi adael.

“Oherwydd yr argyfwng costau byw mae’n anodd i bobol fy helpu. Ga’i ychydig geiniogau.

“Dwi’n ei ffeindio hi’n anodd gwneud £10 y dydd.

“Does gan bobol ddim newid dim mwy oherwydd taliadau electroneg.

“Ond mae pobl yn prynu coffi, bwyd a diod i mi.”

Dim arian am bassport newydd

Ers Mai 2020, fe fu’n byw mewn carafán yn y caeau yn Rhiwlas, ond mae bellach yn aros mewn pabell mewn coedwig.

Wnaeth o ffonio llinell argyfwng Covid, a chael lloches gwely a brecwast.

Ddaeth ei daliad ddim drwodd oherwydd bod Brexit ar ddechrau.

Oherwydd bod ganddo hen basbort yn lle’r un newydd efo microsglodyn, does ganddo ddim hawliau dinasyddiaeth.

Wnaeth o geisio cofrestru efo nhw ar y dyddiad terfynol ym Mehefin 2020.

Dydi o ddim yn gallu fforddio £70 i gael pasbort newydd, na hel y pres i fynd i Fanceinion i lysgenhadaeth Gwlad Pwyl.

Heb allu gweithio yn ystod y cyfnod clo

Mae wedi bod yn ffonio’r llysgenhadaeth i geisio ailagor yr achos, ond os nad yw’n cael hawliau dinasyddiaeth does ganddo mo’r hawl i weithio.

Dydi o ddim wedi cael incwm o gwbl ers tair blynedd, pan oedd yn gwneud tair swydd a gafodd eu gohirio oherwydd y cyfnod clo.

Roedd yn arfer glanhau tai cyngor a thai preifat.

Mae’n dweud y byddai unrhyw un fyddai’n ei gyflogi yn cael dirwy o £10,000.

Mae wedi bod yng Nghymru ers saith mlynedd, ac roedd yn Llundain am 15 mlynedd cyn hynny.

“Dw i ddim yn gwybod sut i adael y wlad oherwydd does gen i ddim pres, a does dim arian i fy alltudio,” meddai.

“Does dim cymorth ar gael i gofrestru. Does gen i ddim hawliau dynol.”

Eraill yn yr un sefyllfa

Dywed ei bod yn bosib fod llawer mwy o bobol yn yr un sefyllfa nad yw pobol yn gwybod amdanyn nhw, oherwydd dydyn nhw ddim wedi cofrestru.

Mae ei gartref yng Ngwlad Pwyl 60km o’r ffin ag Wcráin.

“Dw i ddim eisiau mynd nôl i Wlad Pwyl,” meddai.

“Dw i ddim yn gweld dim gobaith i mi ond aros yma a thrio goroesi’r gaeaf.”