Helo, fy enw i Michelle Morris a fi yw Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. Rwy’n ceisio eich cymorth. Rydym yn ymgynghori ar hyn o bryd ar ein Cynllun Cydraddoldeb ar gyfer 2023-2026, sy’n gosod allan ein blaenoriaethau ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Yn yr erthygl hon, rwy’n esbonio pam y mae’n bwysig i ni gael adborth ar ein Cynllun gan gynifer o bobol ag y gallwn a sut i ymateb i’n hymgynghoriad.


Amdanom ni

Mae gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru dri phrif nod. Rydym yn ymchwilio i gwynion gan bobol sy’n meddwl eu bod wedi cael eu trin yn annheg gan wasanaethau cyhoeddus Cymru ac wedi dioddef anghyfiawnder o ganlyniad. Rydym yn ystyried cwynion bod cynghorwyr yng Nghymru wedi torri’r Cod Ymddygiad o bosibl. Yn olaf, rydym yn ysgogi gwelliant systematig mewn gwasanaethau cyhoeddus a safonau ymddygiad mewn llywodraeth leol yng Nghymru. Rydym yn annibynnol o Lywodraeth Cymru.

Yr heriau sydd o’n blaenau

Wrth ddatblygu’r Cynllun hwn, buom yn dra ymwybodol o’r heriau sy’n wynebu’r sector cyhoeddus, a’n swyddfa, yn y Gymru ôl-bandemig newydd.

Y llynedd, gwnaethom ymdrin â thua 2,700 o gwynion am wasanaethau cyhoeddus Cymru a thua 300 o gwynion am y Cod Ymddygiad, yn ogystal â miloedd o ymholiadau.  Cawsom mwy o gwynion nag erioed o’r blaen, ac rydym yn disgwyl ymdrin â mwy eto eleni. Mae mwy o gwynion yn golygu mwy o gyfleoedd i helpu pobol pan fydd pethau wedi mynd o chwith. Fodd bynnag, rydym yn pryderu y bydd ansawdd ein gwasanaeth yn dioddef os bydd ein llwyth achosion yn parhau i gynyddu.

Rydym yn hyderus bod safon ein penderfyniadau yn dda iawn. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod pobol sy’n cwyno wrthym am i ni wrando mwy a bod yn haws i’n cyrraedd. Gallai llawer hefyd deimlo’n agored i niwed neu dan anfantais wrth gwyno yn erbyn darparwr gwasanaeth. Er bod angen i ni aros yn annibynnol ac yn ddiduedd, ac na allwn bob amser sicrhau’r canlyniad y mae pobol yn ei geisio gennym, gwyddom fod yn rhaid i ymagwedd gefnogol ac empathi fod yn ganolog i’n gwasanaeth.

Rydym yn agored i bawb ac mae ein gwasanaeth yn rhad ac am ddim. Gallwn hefyd gynnig llawer o gefnogaeth i helpu pobol i gael mynediad at ein gwasanaeth.  Er enghraifft, gallwn gymryd cwynion dros y ffôn neu mewn Iaith Arwyddion Prydain!  Fodd bynnag, nid yw rhai grwpiau yn cwyno i ni mor aml ag y byddem yn ei ddisgwyl. Rydym hefyd yn meddwl nad yw llawer o bobol yn gwybod am y cymorth y gallwn ei gynnig neu fod llawer yn cael trafferth deall sut y gallwn helpu. Rydym eisiau gwneud mwy i newid hyn.

Yr achos dros newid: ein Nodau Strategol newydd

Os ydym am gael effaith ystyrlon a pharhaol yn y byd ôl-bandemig newydd, nid yw ‘busnes fel arfer’ yn ddewis. Fel pob sefydliad sector cyhoeddus yng Nghymru, rhaid i ni addasu sut yr ydym yn gweithredu – mabwysiadu ffyrdd newydd o weithio, rhoi cynnig ar ddatrysiadau newydd ac archwilio mwy o bartneriaethau.

Mae angen i ni hefyd wneud mwy i ddangos sut mae ein gwaith yn cyflawni cyfiawnder gwirioneddol i unigolion, yn gwella gwasanaethau cyhoeddus ac yn cefnogi safonau ymddygiad da mewn llywodraeth leol.

I’r perwyl hwn, gwnaethom nodi pedwar Nod Strategol newydd:

  1. Cyflawni cyfiawnder sy’n cael effaith gadarnhaol ar bobl a gwasanaethau cyhoeddus
  2. Cynyddu hygyrchedd a chynhwysiant
  3. Ehangu ein gwaith gwella rhagweithiol
  4. Sicrhau ein bod yn sefydliad iach, effeithlon ac atebol.

Ar gyfer pob un o’r nodau hynny, rydym am gymryd camau penodol i drawsnewid sut rydym yn gweithio. Er enghraifft, rydym am gyflwyno offer digidol newydd i helpu pobol i ganfod a allwn helpu nhw â’u cwyn. Hefyd, rydym am ymgysylltu llawer mwy â chyrff eirioli a chynghori sy’n aml yn cynorthwyo’r bobol sy’n cwyno i ni.

Rydym yn gorff sy’n cael ei ariannu’n gyhoeddus ac rydym yn atebol am sut yr ydym yn defnyddio ein hadnoddau i Senedd Cymru. Rydym yn agored am y ffaith y bydd cwmpas y Cynllun terfynol yn dibynnu ar yr adnoddau a ymddiriedwyd i ni gan y Senedd.

Sut i roi gwybod i ni beth yw eich barn chi

Bydd ein Cynllun Cydraddoldeb yn llywio sut y byddwn yn gwasanaethu pobol Cymru dros y tair blynedd nesaf. Felly, mae’n hanfodol ei fod yn diwallu anghenion pobol Cymru, gan gynnwys cymunedau amrywiol.

Gallwch ddod o hyd i fanylion yr ymgynghoriad hwn ar ein gwefan:

https://www.ombwdsmon.cymru/ymgynghoriadau-ombwdsmon/ymgynghoriad-agored-ein-cynllun-strategol-2023-2026/

Mae’r wefan yn esbonio sut y gallwch rannu eich barn a ni drwy ffurflen ar-lein, dros e-bost, drwy ffonio neu drwy’r post. Gallwch hefyd sgwrsio â ni yn ystod sesiwn ar-lein agored wythnosol.

Byddwn yn cau’r ymgynghoriad hwn 22 Tachwedd. Rydym yn diolch i chi am eich diddordeb ac yn edrych ymlaen at glywed gennych chi!