Wel, mae hi’n ddiwedd yr wythnos ac mae Pont y Borth yn dal i syrthio lawr, yn ôl yr adroddiadau.

Fe ddaeth cau’r bont bythefnos yn ôl fel cryn dipyn o sioc i drigolion y Fam Ynys a’r tir mawr ac mae’n aneglur beth yw’r camau nesaf i geisio datrys y sefyllfa.

Ond a oes modd dadlau bod sefyllfa druenus Bont y Borth yn nodweddiadol o’r Brydain sydd ohoni?

Wedi’r cwbl cafodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei hannog dro ar ôl tro dros y degawd diwethaf i fenthyca arian tra’r oedd cyfraddau llog yn isel ac yna’i fuddsoddi mewn isadeiledd.

Ddaru hyn ddim digwydd, gan olygu’n awr bod isadeiledd Prydain gyfan bellach ar ei liniau, ac wrth i gyfraddau llog gyrraedd 3% mae hi’n rhy ddrud i fenthyg!

Un arall o oblygiadau’r diffyg buddsoddiad yma yw bod cynlluniau di-ri naill ai’n cael eu hisraddio neu eu sgrapio’n gyfan gwbl, a hynny am fod coffrau Trysorlys y Deyrnas Unedig fwy neu lai yn wag.

Mae cymal dwyreiniol llinell gyflym HS2 i Leeds wedi’i sgrapio, tra bod cynlluniau ar gyfer Northern Powerhouse Rail wedi’u hisraddio ac mae yna amheuon a fydd y gwaith o drydaneiddio’r rheilffordd o Aberystwyth yn cael ei gyflawni.

Maen nhw’n dweud mai’r adeg gorau i drwsio to ydi pan fo’r haul yn tywynnu.

Rŵan, dw i ddim yn awgrymu am eiliad fod yr haul wedi tywynnu drwy gydol y degawd a mwy diwethaf, ond mae hi bellach yn tresio bwrw ac mae llechi’n costio ffortiwn!

Qatar yn dda, Iran yn ddrwg

Cafodd Llywodraeth Cymru ei chyhuddo o fod yn rhagrithiol yr wythnos hon wrth i Dawn Bowden, y Dirprwy Weinidog Chwaraeon, benderfynu peidio mynd i gêm Cymru yn erbyn Iran yng Nghwpan y Byd yn Qatar.

Roedd disgwyl iddi hi, y Prif Weinidog Mark Drakeford a Vaughan Gething, Ysgrifennydd yr Economi, deithio i’r wlad wrth i Gymru gystadlu yn y twrnament am y tro cyntaf ers 1958.

Ond mae hi bellach yn dweud na fydd hi’n mynd i’r gêm yn erbyn Iran, gan ddweud mai protestiadau yn erbyn hawliau dynol yn Iran yw’r rheswm am y tro pedol.

Dw i ddim yn siŵr faint o ymchwil mae Dawn Bowden wedi’i wneud ar record hawliau dynol Qatar, ond fe ddylai’r ffaith bod cannoeddd o weithwyr tramor wedi marw’n adeiladu’r stadiymau ar gyfer Cwpan y Byd roi syniad iddi.

Nid ceisio diystyru’r hyn sy’n digwydd yn Iran ydw i fan hyn; mae’r penderfyniad i beidio mynd i’r gêm yn erbyn Iran yn un clodwiw.

Ond yr awgrym fan hyn yw bod hi’n iawn gwneud safiad yn erbyn cyfundrefnau totalitaraidd pan fo hynny’n gyfleus i chi, neu pan nad ydych yn manteisio ohono.

Tybed beth fyddai safbwynt Dawn Bowden a Llywodraeth Cymru pe bai Cwpan y Byd eleni’n cael ei chynnal yn Iran?

Ffarwelio ag un o gewri gwleidyddol Prydain… am y tro

Fe ddaeth newyddion dirdynnol i siglo pob un ohonom ddechrau’r wythnos wrth iddi ddod i’r amlwg fod un o gewri gwleidyddol y Deyrnas Unedig yn cymryd rhan yn I’m a Celebrity Get Me Out of Here.

Bydd, fe fydd yna golled enfawr am fewnwelediad, chwilfrydedd a gweledigaeth Matt Hancock ar goridorau San Steffan tra bydd o’n brysur yn bwyta bôls Cangarŵ a phryfaid cop am ychydig wythnosau.

Nid dyma’r tro cyntaf i Aelod Seneddol Ceidwadol hel ei bac a’i heglu hi tua’r jyngl tra bo’r Senedd yn eistedd.

Pwy all anghofio un arall o drysorau gwleidyddol Prydain, Nadine Dorries, yn ymuno â’r rhaglen yn 2012 a cholli chwip ei phlaid yn y broses.

Yr un ffawd oedd yn wynebu Matt Hancock, gyda’n cyn-Ysgrifennydd Gwladol Simon Hart, sydd bellach yn Brif Chwip (dyna chi swydd faswn i ddim yn hoffi ei gwneud ar hyn o bryd) yn tynnu’r chwip oddi arno.

Dw i erioed wedi bod yn ffan mawr o I’m a Celeb, a dw i’n amau’n gryf y bydd cynnwys Matt Hancock yn y lein-yp eleni yn newid hynny.

Ond pe bawn i’n un o’i etholwyr, fe fyddai’r ffaith ei fod o’n diflannu o Dŷ’r Cyffredin er mwyn cysgu mewn hamoc mewn jyngl yn ystod argyfwng costau byw (a chael ei dalu am wneud) yn ddigon i sicrhau na fyddwn yn pleidleisio drosto yn yr etholiad nesaf!