Fe wnaeth pôl piniwn golwg360 ar agor trydedd bont ym Môn hollti barn ein darllenwyr.

Roedd 49.2% yn credu bod angen un arall, tra bod 35.5% yn dweud nad oes angen un arall.

Roedd 15.3% yn ansicr y naill ffordd neu’r llall.

Mae Pont Menai wedi’i chau oherwydd problemau diogelwch, a fydd hi ddim yn agor eto nes bod y problemau wedi cael eu datrys.

Ar hyn o bryd, does neb yn gwybod pryd fydd y bont yn cael ei defnyddio eto.

Nid yn unig mae’r ffaith bod y bont wedi cau wedi bod yn anghyfleus i’r cyhoedd, ond mae busnesau lleol hefyd yn dioddef.

Roedd sôn rai blynyddoedd yn ôl am godi trydedd bont i Ynys Môn.

Ers Brexit a’r lleihad yn y traffig lorïau trwm o Iwerddon, fe fu llai o achos tros godi trydedd bont bellach, ac mae ein pôl yn dangos bod barn y cyhoedd yn rhanedig hefyd.

Safbwyntiau amrywiol

Dyma’r cwestiwn gafodd ei ofyn yn ein pôl:

Yn ôl un wnaeth ymateb, Alan I. (@ynolalan), “Pleidleisiais i ddim yn siŵr”.

“Yn anaml iawn mae creu mwy o ffyrdd yn datrys problemau traffig.

“Datrysiad arall – codi toll ar y pontydd, neu ar y pontydd i Ynys Gybi, efo eithriad i drigolion Sir Fôn, a’i defnyddio i ariannu bysiau am ddim rhwng Bangor a’r ynys.

“Y rhai sy’n gyrru trwy’r ynys i’r porthladd fferïau all dalu!”

Fe wnaeth Watercolour Phil (@Draig1959) gynnig ateb ychydig yn wahanol, gan ddweud mai’r ateb yw y “dylid adeiladu ffordd ddeuol”.

Ond yn ôl Dyn drws nesa (@gwalchiwr), “does dim problem traffig – 95% o’r amser”.

“Dipyn o oedi at amser bore a phnawn,” meddai.

“Os bysa gyrrwyr yn ymuno â’r traffig y ffordd iawn, bysa llawer llai o oedi, a traffig yn symud yn rhwyddach.

“Nid yw’r mân oedi hwn yn cyfiawnhau trydydd groesfan!”

Pôl piniwn: A ddylid adeiladu trydedd bont i Ynys Môn?

Lowri Larsen

Mae Pont Menai wedi cau oherwydd problemau diogelwch, felly a oes angen un arall yn ei lle?