Mae’r actor byd enwog Matthew Rhys ac arweinwyr cymunedol ym Mhennal, Machynlleth, yn galw am un ymdrech olaf i gyrraedd eu targed o £250,000 i achub tafarn Glan yr Afon sy’n adeilad rhestredig Gradd II.
Mae angen £30,000 ychwanegol i gyrraedd y nod.
Mae’r prosiect yn ceisio gosod ei hun wrth galon y gymuned wledig yng nghanolbarth Cymru, gyda chynlluniau’n cynnwys nid yn unig parhau fel tafarn a bwyty, yn ogystal â chaffi, siop ac yn ddiweddarach datblygu’r ystafelloedd i fyny’r grisiau i greu llety o safon.
Chwaraeodd pentref Pennal ran allweddol yn hanes Cymru yn y 15fed ganrif pan ofynnodd Tywysog Cymru ar y pryd, Owain Glyndŵr, am help gan Frenin Ffrainc, Siarl VI, am gymorth milwrol yn ystod ei wrthryfel yn erbyn lluoedd Brenin Lloegr.
Mae’r llythyr anfonodd Owain chwe chanrif yn ôl yn cael ei adnabod fel Llythyr Pennal, ac mae’r copi gwreiddiol yn cael ei gadw ar hyn o bryd yn yr Archives Nationales ym Mharis.
Mae’r actor Matthew Rhys, sydd â chysylltiadau teuluol cryf â’r ardal, yn dweud bod y cysylltiad hwn yn ysbrydoledig,
“Roedd yn wych ymweld â’r dafarn yn ddiweddar a gweld dros fy hun yr holl waith gwych maen nhw wedi bod yn ei wneud i gadw’r dafarn hanesyddol hon a’r canolbwynt cymunedol lleol yn fyw,” meddai.
“Byddai Owain Glyndŵr ei hun yn falch o’r ysbryd heriol cymunedol a ddangoswyd hyd yn hyn, felly byddwn yn annog pobl o bedwar ban byd i gymryd rhan a buddsoddi mewn ychydig o hanes.”
“Hwb mawr i’r gymuned”
Gyda’r Nadolig ar y gorwel, mae cadeirydd y pwyllgor rheoli, Meirion Roberts, yn galw ar bobl i ystyried prynu cyfranddaliadau i’w hanwyliaid fel anrheg arbennig iawn,
“Gyda phobl yn chwilio am syniadau ar gyfer anrhegion Nadolig yr adeg hon o’r flwyddyn, byddai prynu cyfranddaliadau yn y fenter yn rhoi perchnogaeth i anwyliaid ar ychydig bach o hanes, ac yn anrheg eithaf anarferol sy’n cynnig y siawns o ddifidendau yn y dyfodol.
“Dros fisoedd yr haf daeth cymuned Pennal at ei gilydd ac er nad ydyn ni wedi cyrraedd y nod eto, yn sicr mae yna olau ar ddiwedd y twnnel ac mae’r dyfodol yn edrych yn fwy disglair.
“Rydyn ni eisiau diolch i bawb sydd wedi cofrestru ar gyfer y cytundeb cyfranddaliadau cymunedol hyd yn hyn a diolch yn fawr i Matthew Rhys am ei gefnogaeth.
“Mae wedi bod yn hwb mawr i’r gymuned ar ôl eu holl waith caled.”