Mae Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru a Gweinidog y Cyfansoddiad, wedi lambastio ymdrechion Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddiddymu cyfreithiau’r Undeb Ewropeaidd gafodd eu cadw yn dilyn Brexit fel “prosiect trahaus Brexit sy’n cyflawni llawer o ddim”.

Cafodd y Bil Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (Dirymu a Diwygio), a Gadwyd ei gyflwyno gan y cyn-Weinidog Gwladol dros Gyfleoedd Brexit, Jacob Rees-Mogg, gyda’r cyn-Brif Weinidog, Liz Truss, yn addo cyflawni’r gwaith erbyn Rhagfyr 2023 .

Y bwriad, yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yw ei gwneud hi’n haws i Senedd y Deyrnas Unedig, ddiwygio a diddymu darnau o gyfraith yr Undeb Ewropeaidd gafodd eu cadw ar ôl Brexit.

Ond mae Mick Antoniw wedi disgrifio’r ddeddfwriaeth fel un “ddibwrpas” gan ychwanegu bod asesu 2,400 o ddeddfwriaethau unigol erbyn Rhagfyr 31, 2023 yn dasg “amhosibl”.

Mae e hefyd yn rhybuddio y byddai ymgymryd â thasg o’r raddfa yna’n cael “effaith andwyol” ar allu Llywodraeth Cymru i gyflawni eu rhaglen ddeddfwriaethol yn ogystal â bygwth tanseilio datganoli.

‘Tasg aruthrol’

“Y peth cyntaf i’w nodi yw bod hwn yn fil sydd ar hyn o bryd ag amcanion sydd i raddau helaeth yn hollol amhosibl i’w cyflawni,” meddai Mick Antoniw wrth golwg360.

“Mae hyn oherwydd bod Liz Truss, yn ystod y ras i ddod yn Brif Weinidog, wedi dweud ei bod hi eisiau cyflawni hyn erbyn mis Rhagfyr 2023, felly mewn 12 mis i bob pwrpas.

“Y bwriad yw bod holl ddeddfau’r Undeb Ewropeaidd rydyn ni wedi’u hymgorffori i’n fframwaith cyfreithiol pan ddaru ni adael yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu diddymu.

“Mae hynny yn berthnasol i sawl maes o ddeddfwriaeth eilradd sy’n ymwneud â chyfrifoldeb datganoledig.

“Rydyn ni’n siarad am gyfrifoldebau amgylcheddol, safonau bwyd, diogelwch bwyd a’r mathau yna o bethau yn ogystal â meysydd eraill hefyd.

“Maent yn amcangyfrif y byddai yna oddeutu 2,400 darn o ddeddfwriaeth, felly mae’n dasg enfawr i asesu pob un o’r darnau yna o ddeddfwriaeth.

“Ond wedyn hefyd i asesu pa rai sy’n ymwneud â phwerau datganoledig yn o gystal â pha ddeddfwriaethau y mae mwy nag un llywodraeth yn gyfrifol amdanynt, oherwydd un o gymhlethdodau’r gyfraith yw bod yna gorgyffwrdd, problemau ffin, materion rheoleiddio cyffredin sydd weithiau’n berthnasol ac yn y blaen.

“Felly mae hi’n dasg aruthrol i Lywodraethau’r Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon yn ogystal â Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Felly rydan ni wedi gwneud y pwynt nad oes modd cyflawni hyn, mae’n hollol hurt gweithio tuag at y terfyn amser hwn (ym mis Rhagfyr 2023).

“Roedd y terfyn amser gwreiddiol ar gyfer y bil hwn wedi’i osod yn 2026, sydd dal yn dasg anferthol.

“Pe baen rhaid i ni wneud hyn, fe allai gael effaith andwyol ar ein capasiti i gyflawni ein rhaglen ddeddfwriaethol ac oherwydd hynny rydyn ni’n edrych ar ffyrdd y gallwn ni ddargyfeirio, neu edrych ar ffyrdd gwahanol y gallwn ni ddelio â’r bil hwn.

“Mae yna lot o feddwl yn mynd i mewn i sut y gallwn ni gyflawni hynny.”

‘Prosiect trahaus Brexit’

Does yna “ddim rheswm da” dros gyflwyno’r ddeddfwriaeth oni bai am “fodloni ideoleg Brexitaidd”, yn ôl Mick Antoniw.

“Dydyn ni ddim yn credu hyn yn angenrheidiol o gwbl,” meddai.

“Yr oll yw’r ddeddfwriaeth hon, i bob pwrpas, yw prosiect trahaus Brexit sy’n cyflawni llawer o ddim.

“Does yna ddim rheswm da, hyd y gwelwn ni, dros gyflwyno deddfwriaeth hwn oni bai am fodloni ideoleg Brexitaidd.

“Oherwydd os yw pethau’n cael eu cadw fel ag y maen nhw nawr, yna fe allwn ni newid ag addasu Deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd a Gadwyd pryd bynnag mae’n briodol gwneud hynny.

“Fe allwn ni wneud hynny o fewn amserlen eithaf bychan.

“Felly yn y bôn, mae hyn yn gosod gorchymyn arnom sy’n bygwth goblygiadau difrifol i’n capasiti i gyflawni ein rhaglen ddeddfwriaethol, ac mae ein rhaglen ddeddfwriaethol yn rhywbeth rydyn ni’n benderfynol o’i gyflawni.

“Felly rydyn ni’n edrych ar ffyrdd o warchod y rhaglen honno.

“Rydwn i’n defnyddio pob cyfle dw i’n ei gael i’w gwneud hi’n glir (i Lywodraeth y Deyrnas Unedig) fod y ddeddfwriaeth yma’n ddibwrpas a bod yn rhaid iddyn nhw gael gwared ar y terfyn amser chwerthinllyd yma oherwydd nad oes modd ei gyflawni a’i fod yn bygwth achosi niwed deddfwriaethol sylweddol.”

‘Cyfansoddiadol annerbyniol’

Mae Mick Antoniw yn ystyried cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “gyfansoddiadol annerbyniol” oherwydd eu bod yn rhoi pwerau i Weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddeddfwriaethu o fewn meysydd datganoledig.

“Fe fyddem yn hoffi gweld y ddeddfwriaeth hon yn cael ei daflu allan,” meddai.

“Fe fydd yn rhaid i ni weld os oes gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y gallu i gynnal undod gwleidyddol a chael gwared ar y ddeddfwriaeth hon ar yr un pryd.

“Ond y peth gorau i bawb fyddai iddo gael ei daflu allan ac i lywodraethau pedair gwlad y Deyrnas Unedig gynnal trafodaethau call ar Ddeddfau’r Undeb Ewropeaidd.

“Y peth arall am y ddeddfwriaeth hon yw ein bod yn ei ystyried yn gyfansoddiadol annerbyniol oherwydd mae’n rhoi pwerau i Weinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddeddfwriaethu o fewn meysydd datganoledig.

“Felly rydyn ni wedi dechrau trafodaethau (gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig) drwy ddweud bod hynny yn annerbyniol a phe bai’r bil yma’n mynd yn ei flaen fod angen cyflwyno newidiadau mawr iddo.

“Y peth i’w nodi yw bod y bil, ar ei wedd bresennol, yn trosglwyddo pwerau anferthol heibio Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd.

“Oherwydd os yw’r holl ddeddfwriaeth yma’n cael ei ddiddymu erbyn terfyn amser penodol mae o wedyn yn mynd i’r Gweinidogion i benderfynu pa rai y maen nhw eisiau eu cadw, a does yna ddim proses seneddol wedi’i sefydlu i ddelio â hynny.

“Felly er enghraifft, fe fyddai hawliau gweithwyr, hawliau cymdeithasol sy’n bodoli o ganlyniad i gyfraith yr Undeb Ewropeaidd, megis yr hawl gyfreithiol i dâl gwyliau, yn diflannu dros nos ac fe fyddai gan Weinidogion y cyfle i beidio’i gadw.

“Mae hynny’n golygu y gallet ti gael cyfres o hawliau cymdeithasol yn diflannu heb graffu Seneddol.

“Felly fe allai gael effaith sylweddol.”

‘Synnwyr cyffredin’

“Yn y bôn, dw i’n meddwl fod gen ti broblem fawr pan mae datblygu’r gyfraith yn cael ei arwain gan amcanion ideolegol yn hytrach na sicrhau fod proses seneddol briodol ar waith i sicrhau fod y gyfraith orau ar waith ar gyfer pobol y wlad,” meddai Mick Antoniw.

“Does dim amheuaeth fod yr addewid i gyflawni’r ddeddfwriaeth hwn erbyn Rhagfyr 2023 yn rhywbeth gafodd ei wneud er mwyn ennyn cefnogaeth wleidyddol yn ystod cyfnod Liz Truss wrth y llyw.

“Felly fe fyddai rhywun yn gobeithio nad yw hynny yn broblem bellach a bod synnwyr cyffredin yn drech nag ef.

“Ac fe fyddai rhywun yn gobeithio, fel man dechrau, fod y terfyn amser hwnnw yn cael ei ddiddymu, gydag un llygad ar ddiddymu’r ddeddfwriaeth yn gyfan gwbl.”