Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu “rhagrith” Llywodraeth Lafur Cymru, ar ôl i Dawn Bowden, y Gweinidog Chwaraeon, benderfynu peidio mynd i gêm Cymru yn erbyn Iran yng Nghwpan y Byd yn Qatar.
Roedd disgwyl iddi hi, y Prif Weinidog Mark Drakeford a Vaughan Gething, Ysgrifennydd yr Economi, deithio i’r wlad wrth i Gymru gystadlu yn y twrnament am y tro cyntaf ers 1958.
Ond mae hi bellach yn dweud na fydd hi’n mynd i’r gêm yn erbyn Iran, gan ddweud mai protestiadau yn erbyn hawliau dynol Iran, un o wrthwynebwyr Cymru yng Ngrŵp B, yw’r rheswm am y tro pedol.
Fe fu galwadau eisoes ar Lywodraeth Cymru i beidio â chefnogi’r gystadleuaeth yn Qatar oherwydd eu record hawliau dynol nhw, ond mae disgwyl i Mark Drakeford a Vaughan Gething fynd serch hynny i’r gemau yn erbyn yr Unol Daleithiau a Lloegr.
Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd Dawn Bowden yn mynd i’r ddwy gêm arall.
‘Methu penderfynu’
“Dydy’r Blaid Lafur ddim cweit yn gallu penderfynu a ydyn nhw’n mynd i Gwpan y Byd Qatar neu beidio,” meddai Tom Giffard, llefarydd chwaraeon y Ceidwadwyr Cymreig.
“Mae’r rhagrith yn glir i bawb ei weld.
“Mae Keir Starmer yn boicotio’r digwyddiad ac yn dweud mai dyna ’safbwynt y blaid’, tra mewn gwirionedd mae eu gwleidydd etholedig mwyaf blaenllaw, Mark Drakeford, yn mynd.
“Nawr mae Dawn Bowden, oedd i fod i deithio i Qatar i fynd i gêm Cymru yn erbyn Iran fel rhan o’i hantur ddiweddaraf dramor, wedi penderfynu gwneud tro pedol ar y penderfyniad hwnnw.
“Mae hi’n briodol, fodd bynnag, fod tîm Cymru’n cael eu cefnogi’n llawn yn eu Cwpan Byd cyntaf ers y 1950au.
“Rwy’n gobeithio y bydd Mark Drakeford yn dal i fynd, a ddim yn ildio i’r un pwysau â’i Is-Weinidog Chwaraeon.”
Y Democratiaid Rhyddfrydol yn beirniadu Elin Jones am amddiffyn taith Mark Drakeford i Qatar
Annog gweinidogion Llywodraeth Cymru i beidio â mynd i Qatar