Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru’n galw ar nifer o weinidogion Llywodraeth Cymru i beidio â mynd i Qatar yn ystod Cwpan y Byd.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog Mark Drakeford, Ysgrifennydd yr Economi Vaughan Gething, a’r Gweinidog Chwaraeon Dawn Bowden deithio i’r wlad wrth i Gymru gystadlu yn y twrnament am y tro cyntaf ers 1958.

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol eisoes wedi galw ar y llywodraeth i gau eu swyddfa yn Qatar ynghylch pryderon am hawliau dynol yn y wlad, ac maen nhw’n dweud y byddai ymweld â’r wlad yn anfon y neges anghywir ynghylch blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran hawliau dynol.

Mae’r Blaid Lafur yn y Deyrnas Unedig eisoes wedi cytuno i beidio â mynd yn sgil pryderon am y ffordd mae adeiladwyr wedi cael eu trin ac agweddau’r wlad tuag at briodasau a pherthnasau o’r un rhyw.

Galwodd Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, ar Lywodraeth Cymru i gau eu swyddfa yn Qatar yn 2021, a daeth ail alwad fis diwethaf ar ôl i un o drigolion gwledydd Prydain gael ei ganfod yn crogi yn y wlad ar ôl cael ei arteithio gan awdurdodau Qatar.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod cau’r swyddfa hyd yn hyn.

Yn ôl un fynegai, mae Qatar yn rhif 126 allan o’r 167 o wledydd gwaethaf am fyw dan gyfundrefn awdurdodaidd, ac mae gan y wlad record wael o ran hawliau menywod, sy’n dal i orfod gofyn am ganiatâd dynion i wneud rhai pethau o ddydd i ddydd.

Mae Qatar hefyd wedi bod yn manteisio ar lafur mewnfudwyr a’u trin nhw fel caethweision, gan gynnwys yn y gwaith o adeiladu’r stadiymau ar gyfer Cwpan y Byd.

‘Gwyngalchu’

“Rhaid i Mark Drakeford a’i gydweithio beidio â chyfrannu at wyngalchu record hawliau dynol Qatar,” meddai Jane Dodds.

“Yn gywir iawn, mae Llafur y Deyrnas Unedig wedi amlinellu lein glir iawn mai ymweld â Qatar yn swyddogol yn ystod Cwpan y Byd fyddai’r peth anghywir i’w wneud.

“Mae yna ymdrech glir a bwriadol gan Lywodraeth Qatar i geisio manteisio ar y twrnament hwn i dynnu sylw oddi ar eu record ddrwgenwog o ran hawliau dynol.

“Wnaeth Llywodraeth Cymru ddim anfon cenhadon i Gwpan y Byd Rwsia yn 2018.

“Byddai hi’r un mor ddrwg pe baen nhw’n gwneud hynny nawr ac oni bai eu bod nhw’n bwriadu codi pryderon am hawliau dynol yn gyhoeddus, bydden nhw’n cyfrannu at yr ymarfer cysylltiadau cyhoeddus gan y gyfundrefn.

“Trwy gydol ein galwadu ar i Lywodraeth Cymru gau eu swyddfa yn Qatar, mae Llywodraeth Cymru wedi mynnu eu bod ‘yn credu mewn ymgysylltu â gwledydd nad ydyn nhw’n rhannu gwerthoedd ar hawliau dynol er mwyn dylanwadu ar newid’, ond eto dydyn ni ddim wedi gweld unrhyw dystiolaeth faterol fod Llywodraeth Cymru’n galw am ragor o hawliau dynol yn y wlad.

“Dylai Mark Drakeford ganslo’i gynlluniau i ymweld â Qatar ar frys pe bai wir yn poeni am hawliau dynol.”