Mohammed H. Farah o Gaerdydd yw enillydd Bwrsari Darlledu Chwaraeon S4C eleni.

Gyda chefnogaeth cwmnïau cynhyrchu Jams & Mr B, Ronda Media a Media Atom, mae bwrsariaeth gwerth £9,000 yn cael ei chynnig gan S4C i fyfyriwr Du, Asiaidd neu ethnig lleiafrifol i astudio cwrs MSc Darlledu Chwaraeon ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd.

Mae Mohammed H. Farah yn ddysgwr Cymraeg ac mi fydd S4C yn ei gefnogi wrth iddo barhau i ddysgu’r iaith gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, a thrwy Say Something In Welsh.

“Roeddwn i’n gweithio fel swyddog diogelwch rhan amser yn BBC Media City yn Salford wrth astudio gradd Gwyddorau Chwaraeon, a tra yno cefais agoriad llygad am ba mor ddifyr roedd gyrfa ym myd darlledu chwaraeon yn edrych,” meddai Mohammed H. Farah.

“Fe wnes i gyfarfod â’r darlledwr Jason Mohammad yno, sy’n dod o Gaerdydd, fel finnau.

“Fe wnes i holi ynglŷn â sut i ennill gyrfa ym myd darlledu chwaraeon ac fe soniodd am y bwrsari roedd S4C, Media Atom, Rondo Media a’i gwmni e, Jams & Mr B, yn gynnig.

“Dw i’n hynod o hapus i ennill y cyfle anhygoel yma i ddysgu am y byd darlledu chwaraeon yn yr oes ddigidol.

“Dw i’n edrych ymlaen at ddatblygu fy sgiliau cynhyrchu, fel saethu a golygu fideos fy hun, creu cynnwys digidol a recordio a chynhyrchu cynnwys radio.

“Dw i hefyd yn dysgu Cymraeg, sydd yn her, ond rwy’n benderfynol i lwyddo.”

‘Esiampl i’r gymuned Mwslim’

Dywed Jason Mohammad, un o sylfaenwyr y cwmni Jams & Mr B, fod Mohammed “wedi dangos awch anhygoel i ddysgu a chreu llwybr i’w hun ym myd darlledu chwaraeon”.

“Fe ddangosodd fod ganddo’r brwdfrydedd i weithio a hefyd diddordeb mawr yn y campau,” meddai.

“Nawr, diolch i S4C a’r partneriaid, fe all Mohammed fwrw ymlaen a bod yn esiampl i’r gymuned Mwslim yng Nghymru.

“Gwych!”

‘Cyfoethogi’r diwydiant darlledu’

“Rydyn ni’n falch iawn i gynnig y fwrsariaeth chwaraeon i fyfyriwr brwdfrydig ac uchelgeisiol fel Mohammed,” meddai Nia Edwards-Behi, Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant S4C.

“Nod y bwrsari yma yw cynnig cyfleoedd i Gymry o gefndiroedd gwahanol a chyfoethogi’r diwydiant darlledu yng Nghymru gyda thalent newydd.

“Hoffwn ddiolch i’n partneriaid, Jams & Mr B, Rondo Media a Media Atom am wneud y cynnig yn un mor ddeniadol i’r rhai sydd eisiau gyrfa ym myd darlledu chwaraeon.”

O McDonald’s i Scrum V a Radio Cymru

Alun Rhys Chivers

“Wrth i fi ddechrau gweithio yn y cyfryngau, ro’n i wrth fy modd gyda fe, ond mae’n amlwg bod under-representation ym mhob department”