Mae Dewi Lake allan o gemau hydref tîm rygbi Cymru oherwydd anaf.

Mae Bradley Roberts wedi cymryd ei le yn y garfan.

Daw hyn ddyddiau’n unig ar ôl iddyn nhw herio’i gilydd yn y gêm ddarbi Gymreig rhwng y Gweilch a’r Dreigiau ddydd Sul (Hydref 23).

Cafodd Lake anaf i’w ysgwydd yn ystod yr hanner cyntaf yn Rodney Parade, wrth i’r tîm cartref ennill o 32-25.

Yn y cyfamser, mae Justin Tipuric wedi’i enwi’n gapten ar gyfer y gyfres.

Bydd Cymru’n herio Seland Newydd ar Dachwedd 5, yr Ariannin ar Dachwedd 12, Georgia ar Dachwedd 19 ac Awstralia ar Dachwedd 26.