Mae John Kear, prif hyfforddwr tîm rygbi’r gynghrair Cymru, wedi canmol ei dîm ar ôl iddyn nhw golli eto yng Nghwpan y Byd.

Mae Tonga un cam yn nes at rownd yr wyth olaf, yn dilyn eu buddugoliaeth o 32-6 yn St Helens.

Roedd Cymru ar y blaen am ran fwya’r hanner cyntaf yn dilyn cais Kyle Evans, ond ar ôl i Daniel Tupou groesi, daeth dau gais arall cyn yr egwyl i David Fifita a Keaon Koloamatangi.

Cwblhaodd Tupou ei hatric yn yr ail hanner gyda chais y naill ochr i gais Tesi Niu, sy’n golygu y byddai buddugoliaeth dros Ynysoedd Cook yn ddigon iddyn nhw gymhwyso o’r grŵp er mwyn cael herio Samoa neu Ffrainc.

Ond mae Cymru’n waglaw yn eu dwy gêm gyntaf ar ôl colli yn erbyn Ynysoedd Cook yn eu gêm gyntaf, a dydyn nhw ddim wedi ennill yr un gêm yng Nghwpan y Byd bellach ers 2000.

Mae’n rhaid iddyn nhw ddibynnu ar Papua Guinea Newydd i guro Ynysoedd Cook, ac wedyn curo Papua Guinea Newydd yn eu gêm olaf er mwyn bod â gobaith o aros yn y twrnament.

“Dw i ddim yn meddwl bod [y sgôr] yn gwneud cyfiawnder â ni,” meddai John Kear.

“Mae’r chwaraewyr yn galon i gyd, on’d ydyn nhw, ac mae’n rhaid i chi dynnu’ch het iddyn nhw.

“Maen nhw’n ymrwymo’n llwyr yn erbyn tîm rygbi’r gynghrair mawr, corfforol ac eto, dw i’n falch ohonyn nhw ond rydyn ni wedi colli, rydyn ni wedi colli ond mae’r gwytnwch yn rhagorol.

“Mae’n rhaid i ni sylweddoli eu bod nhw [Tonga] yn dîm llawn amser.

“Rydyn ni’n herio tîm NRL – tîm NRL da – a dyna pam fy mod i mor falch â’n hymdrechion ni.”