Mae Clwb Pêl-droed Wrecsam yn dweud na fydd Paul Mullin yn gwisgo esgidiau dadleuol eto heno (nos Fawrth, Hydref 25).
Mae ffrae wedi codi ar ôl i’r chwaraewr gael ei weld yn gwisgo esgidiau yn dwyn y frawddeg ‘F*** the Tories’ yn ei gêm ddiwethaf.
Yn ôl y clwb, cafodd y lluniau’n dangos yr esgidiau eu tynnu heb awdurdod, ac maen nhw’n dweud na fydden nhw wedi rhoi’r hawl i neb dynnu’r lluniau ac y byddan nhw’n ymdrin â’r sefyllfa.
“Mae’r clwb wedi mabwysiadu safbwynt niwtral ar nifer o faterion sydd â dimensiwn gwleidyddol iddyn nhw, ac yn bwriadu parhau i wneud hynny wrth symud ymlaen,” meddai’r clwb mewn datganiad.
“Mae’r clwb hefyd yn cydnabod fod gan bawb yr hawl i’w barn eu hunain, boed yn gyflogeion neu’n gefnogwyr, ond yn tynnu sylw hefyd at y ffaith nad oes modd i farn unigolyn gynrychioli’n deg farn pawb na’r clwb ei hun.
“Does dim enghraifft fwy amlwg o hyn na’r ffaith fod Aelod Seneddol etholaeth y clwb yn sedd Geidwadol.”
Dywed y clwb eu bod nhw bellach yn bwriadu canolbwyntio ar yr hyn sy’n digwydd ar y cae, wrth roi sylw i’w hymdrechion i ennill dyrchafiad a’r buddiannau cymunedol ddaw yn sgil hynny, a bod gan Paul Mullin ran bwysig i’w chwarae yn hynny o beth.