Tarodd Andy Balbirnie, cyn-fatiwr Morgannwg, 62 wrth i dîm criced Iwerddon guro Lloegr o bump rhediad yng Nghwpan T20 y Byd yn Awstralia.

Cafodd y canlyniad ei gadarnhau ar sail Dull DLS ar ddiwedd gêm gafodd ei chwtogi gan y glaw ar yr MCG ym Melbourne.

Cafodd y Gwyddelod eu bowlio allan am 157 mewn 19.2 o belawdau, cyn i Loegr sgorio 105 am bump mewn 14.5 o belawdau wrth i’r ornest ddirwyn i ben yn gynnar.

Mae’r canlyniad yn golygu bod gobeithion Lloegr o barhau yn y twrnament yn y fantol, a hwythau ymhlith y ffefrynnau i godi’r tlws.

Bydd angen iddyn nhw guro Awstralia, Seland Newydd a Sri Lanca er mwyn cymhwyso – a pherfformio dipyn gwell gyda’r bat a’r bêl.

Dyma lwyddiant diweddara’r Gwyddelod yn erbyn y Saeson, gyda’u buddugoliaeth enwocaf yn dod yn ystod Cwpan 50 pelawd y Byd yn 2011.

Treuliodd Andy Balbirnie gyfnod gyda Morgannwg rhwng 2020 a 2021.

“Mae’n anhygoel ac yn emosiynol oherwydd dydyn ni erioed wedi chwarae gêm o griced yma,” meddai wrth y BBC.

“Mae dod yma a chwarae yn erbyn ffefrynnau’r twrnament, gyda chynifer o enwau mawr, a rhoi sioe gerbron ffrindiau a theulu a chynifer o bobol o amgylch y byd yn destun boddhad mawr.

“Mae gwneud hynny yn un o’r caeau criced mwyaf anhygoel yn y byd yn eithaf arbennig.”