Mae’r Urdd wedi dechrau ar daith i ysgolion cynradd bob chwaraewr yng ngharfan tîm pêl-droed Cymru.
Gan ddechrau yn hen ysgol Wayne Hennessey ym Miwmares heddiw (dydd Mercher, Hydref 26), bydd Adran Chwaraeon yr Urdd yn cynnal gweithdai yn yr holl ysgolion cyn gêm gyntaf Cymru yng Nghwpan y Byd yn erbyn yr Unol Daleithiau ar Dachwedd 21.
Fel rhan o Daith Ysgolion Cwpan y Byd yr Urdd, bydd sesiwn hyfforddi pêl-droed yn cael ei chynnal ym mhob ysgol, gyda Mistar Urdd yn ymuno yn yr hwyl.
Y nod, meddai’r Urdd, yw sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn cael cyfle i ymuno yng nghyffro’r bencampwriaeth.
“Be ydyn ni eisiau yn yr Urdd ydy rhoi cyfle i bob un plentyn allu bod yn rhan o’r bwrlwm, ac i fod yn rhan o’r cyffro’n arwain fyny at y gêm gyntaf,” meddai Eleri Roberts, Rheolwr Cyhoeddiadau a Chyfathrebu’r Urdd wrth golwg360.
Mae’r Urdd wedi estyn gwahoddiad i ysgolion cynradd dros y ffin i ymuno â’r hwyl hefyd, gan gynnwys rhai yn Nottingham, Hull a Chaerloyw.
“Y rheswm dros hynny ydy achos bod rhai o chwaraewyr tîm pêl-droed Cymru wedi cael eu haddysg drosodd yn Lloegr,” eglura Eleri Roberts.
“Roedden ni eisiau rhoi’r cynnig iddyn nhw, a chwarae teg, mae’r ysgolion wedi bod yn gefnogol iawn ac maen nhw’n barod yn dathlu llwyddiant eu cyn-ddisgyblion.
“Rydyn ni wedi cael croeso, ac mae yna saith ysgol wedi cytuno i gael ymweliad gan yr Urdd ac i ddysgu mwy am Gymru fel rhan o’r broses. Fydd hynny’n grêt.”
Ben Davies – ‘Arwr’ Blaendulais
Un o’r ysgolion fydd yn derbyn ymweliad, ynghyd â phecyn ysgol Cwpan y Byd a chyflwyniad am ymgyrch Cymru, yr iaith a’r diwylliant, yw Ysgol Gymraeg Blaendulais, sef hen ysgol Ben Davies.
“Mae’n rhaid i fi ddweud bod pawb o fewn yr ardal yn dwlu ar Ben, dyna eu harwr nhw i fod yn onest,” meddai Kathryn Penhale, pennaeth yr ysgol, wrth golwg360.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen, rydyn ni’n mynd i fod yn rhan o ddathliadau’r Urdd.
“Mae pêl-droed yn dipyn o beth yn yr ysgol, a llawer iawn o’r bechgyn yn dwlu ar bêl-droed yn fan hyn.
“Ers i [Ben Davies] adael, mae e wedi bod yn ôl unwaith ac fe wnaeth e siarad gyda’r plant, ac ysbrydoli’r plant.
“Roedd e’n wych, ac mae e wastad yn cefnogi’r ysgol.”
‘Unrhyw beth yn bosib’
Er ei bod hi’n edrych yn annhebygol y bydd Rhys Norrington-Davies yn cymryd rhan yng Nghwpan y Byd ar ôl iddo gael anaf wrth chwarae i Sheffield United yr wythnos ddiwethaf, bydd yr Urdd yn ymweld â’i hen ysgol yng Nghomins Coch ger Aberystwyth.
Cafodd tri o ddisgyblion Ysgol Comins Coch gyfweld â Rhys Norrington-Davies dros Zoom fore heddiw (dydd Mercher, Hydref 26), gyda disgyblion eraill o’r ardal, ac mae’r ysgol i gyd wedi cyffroi dros Gwpan y Byd.
“Dw i’n meddwl bod y cysylltiad â’r ysgol wedi cyffroi’r plant,” meddai Siwan Davies, sy’n dysgu Blwyddyn 1 a 2 yr ysgol, wrth golwg360.
“Rydyn ni wedi cael siom nawr bod e ddim am allu chwarae achos bod e wedi cael anaf, ond mae e dal yn gyffrous iawn ein bod ni wedi gallu siarad gydag e.
“Mae e’n dangos iddyn nhw bod unrhyw beth yn bosib.
“Gelon ni wasanaeth ysgol gyfan a dweud wrthyn nhw bod unrhyw beth yn bosib, a’i fod o wedi dod o’r ysgol yma.
“Yn y cyfweliad gyda fe nawr, ein cwestiwn ni oedd ambyti chwarae pêl-droed yn yr ysgol ac roedd e’n dweud taw pan oedd e’n blwyddyn 3 yn Ysgol Comins Coch, dyna pryd ddechreuodd y brwdfrydedd gyda fe i chwarae pêl-droed. I’r plant gael clywed hynna, roedd e mor lyfli.
“Roedd e mor down to earth yn y ffordd roedd e’n siarad efo’r plant, roedd e’n lyfli.”
Y Daith Ysgolion yw’r ail brosiect sydd wedi’i gyhoeddi gan yr Urdd i gefnogi ymgyrch Tîm Cymru Cwpan y Byd 2022.
Ym mis Medi, galwodd yr Urdd ar bob ysgol gynradd yng Nghymru i gofrestru ar gyfer Jamborî Cwpan y Byd – Jamborî mwyaf y ganrif – a fydd yn cael ei gynnal yn ddigidol ar Dachwedd 10.
Mae’r daith yn un o dri phrosiect gan yr Urdd sydd wedi’u hariannu gan Gronfa Cymorth i Bartneriaid Cwpan y Byd Llywodraeth Cymru i hyrwyddo Cymru a’r iaith Gymraeg, yng Nghymru ac yn rhyngwladol, dros gyfnod y gystadleuaeth.
Bydd manylion pellach am drydydd prosiect y mudiad yn cael ei gyhoeddi yn yr wythnosau nesaf.