Fydd dim angen prawf Covid-19 negyddol ar gefnogwyr tîm pêl-droed Cymru cyn teithio i Qatar.

Bydd Cymru’n cystadlu yng Nghwpan y Byd fis nesaf, am y tro cyntaf ers 1958.

Bydd tîm Rob Page yn herio’r Unol Daleithiau, Lloegr ac Iran yn ystod y gemau grŵp yn Stadiwm Ahmed bin Ali rhwng Tachwedd 21-29.

Daw’r cadarnhad o’r trefniadau teithio gan Iechyd Cyhoeddus Qatar, wrth iddyn nhw ddiweddaru eu mesurau Covid-19.

Maen nhw’n dweud bod nifer yr achosion yn gostwng yn Qatar ac o amgylch y byd, ac felly eu bod nhw wedi addasu’r mesurau oedd ar waith yn y wlad.

Ond maen nhw’n dweud ei bod hi’n hanfodol i bawb barhau i ddilyn y rheolau, sy’n cynnwys cael brechlyn Covid-19, golchi dwylo’n rheolaidd, cael prawf Covid-19 os bydd symptomau’n ymddangos a dilyn ffordd o fyw iach ar y cyfan.

‘Rhagrith’

Yn y cyfamser, mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi beirniadu “rhagrith” y Blaid Lafur.

Tra bod Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, yn teithio i’r wlad yn ystod Cwpan y Byd er mwyn hyrwyddo Cymru ar lwyfan y byd, mae Syr Keir Starmer, arweinydd y Blaid Lafur, yn dweud na fydd e’n teithio yno.

“Os yw Keir Starmer eisiau ’dangos rhinwedd’ drwy beidio â mynychu Cwpan y Byd, dylai godi’r ffôn a siarad â Phrif Weinidog Llafur Cymru, a fydd yn mynychu er mwyn cefnogi carfan Cymru.

“Rhowch y gorau i’r rhagrith @Keir_Starmer – gadewch i ni gefnogi ein bois.”