Mae Clwb Criced Morgannwg wedi rhoi cytundebau i dri chwaraewr ifanc.

Mae Ben Morris a Ben Kellaway, sy’n 18 oed, wedi dod trwy academi Morgannwg, tra bod Zain Ul Hassan, sy’n 21 oed, wedi dod trwy Academi Criced De Asia.

Bowliwr sêm llaw dde yw Ben Morris, ac mae’n chwarae i Glwb Criced y Fenni.

Batiwr a throellwr o Gas-gwent yw Ben Kellaway.

Mae’r ddau wedi cynrychioli ail dîm Morgannwg, ac roedden nhw’n rhan o dîm dan 18 Cymru enillodd Gwpan T20 dan 18 Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, ac fe chwaraeodd y ddau i Forgannwg eleni yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Prifysgolion Caerdydd.

Bowliwr sêm llaw dde a batiwr llaw chwith yw Zain Ul Hassan, ac fe ddaeth e drwy Academi Swydd Gaerwrangon yn 2019, gan chwarae mewn gêm undydd yn erbyn tîm ‘A’ India’r Gorllewin.

Yn dilyn cyfnod llwyddiannus gydag Academi Criced De Asia, cafodd e dreialon gyda Morgannwg a chreu argraff yn yr ail dîm gyda’r bat a’r bêl.

Sgoriodd e 638 o rediadau ar gyfartaledd o 40 ym Mhencampwriaeth yr Ail Dîm, gan gynnwys 116 yn erbyn Swydd Efrog, ac fe gipiodd e 37 o wicedi ar gyfartaledd o 15, gan gipio pum wiced mewn batiad ddwywaith.

Dywed Ben Kellaway ei bod hi’n “fraint” cael llofnodi’r cytundeb, a’i fod e “wedi cyffroi” o gael parhau â’i daith dros y ddwy flynedd nesaf.

Yn ôl Ben Morris, mae’n “edrych ymlaen at ad-dalu ffydd Morgannwg” ynddo fe.

Mae Zain Ul Hassan yn dweud bod ganddo fe “deimladau nad oes modd eu disgrifio” ar ôl llofnodi ei gytundeb cyntaf gyda’r sir, fod Morgannwg yn “sir anhygoel sydd â hanes cyfoethog iawn a diwylliant gwych yn y clwb”.

Canmol Zain a’r ddau Ben

“Mae’r ddau Ben wedi dod yn eu blaenau’n fawr iawn y tymor hwn, ac mae ganddyn nhw nenfwd uchel iawn, felly rydyn ni wedi’n cyffroi o gael gweithio gyda nhw a gweld eu gemau’n datblygu,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.

“Mae gan Ben Morris gyflymdra difrifol sy’n rhinwedd mae gofyn mawr amdano fe yn y byd criced, tra bod Ben Kellaway yn gricedwr â sawl dimensiwn iddo fe a llwyth o botensial.

“Mae’r clybiau wedi gwneud gwaith gwych gyda nhw, a dylen nhw fod yn falch iawn o gynhyrchu’r fath chwaraewyr talentog ac aeddfed iawn.

“Mae Zain wedi creu gwir argraff pan gafodd ei alw i’r ail dîm, ac rydym wrth ein boddau o allu rhoi’r cyfle iddo fe arddangos ei ddoniau ar y lefel nesaf.”