Mae cwmni bysiau sy’n cludo cefnogwyr Clwb Pêl-droed Abertawe i gemau oddi cartref yn dweud na fydden nhw’n oedi cyn dirwyn y gwasanaeth i ben pe na bai ymddygiad gwrthgymdeithasol carfan fechan o gefnogwyr yn gwella.

Mae’r clwb wedi cyhoeddi datganiad yn atgoffa cefnogwyr nad ydyn nhw’n godde’r fath ymddygiad, a daw’r rhybudd yn sgil yr hyn maen nhw’n ei alw’n gynnydd mewn achosion o’r fath ers dechrau’r tymor hwn.

Mae’r Elyrch yn dweud bod cefnogwyr wedi mynd atyn nhw i gwyno am ymddygiad lleiafrif bach, siantio caneuon sy’n gwahaniaethu yn erbyn rhai pobol, a chamdriniaeth o’r rhai sy’n gweithredu’r gwasanaeth bws i gemau oddi cartref.

Dywed y clwb eu bod nhw wedi rhoi “sawl rhybudd a gwaharddiad”, ac y byddan nhw’n parhau i gydweithio ag Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr i geisio datrys y sefyllfa.

Er mwyn ceisio mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, dywed y clwb y byddan nhw’n darparu stiwardiaid a staff arall ar y bysiau ar gyfer y tair gêm nesaf, gan ddechrau gyda Bristol City ddydd Sadwrn (Hydref 29).

Bydd yn rhaid i bob oedolyn sy’n teithio ar fws ddangos cerdyn adnabod a thocyn i’r gêm.

Yn ôl y clwb, byddai dod â’r gwasanaeth i ben “yn cael effaith andwyol ar lawer o’n cefnogwyr ac, yn ei dro, yn effeithio ar nifer y cefnogwyr sy’n teithio oddi cartref”.

Tra eu bod nhw’n cydnabod “cefnogaeth anhygoel” y mwyafrif, maen nhw’n dweud na fyddan nhw’n goddef unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol, a’u bod nhw eisiau sicrhau bod teithio i wylio’r tîm yn brofiad pleserus.

“Ond fydd ymddygiad gwrthgymdeithasol ddim yn cael ei oddef,” meddai’r clwb.