Bydd Hal Robson-Kanu i’w glywed fel rhan o dîm pynditiaid ITV ar gyfer Cwpan y Byd yn Qatar, sy’n dechrau fis nesaf.

Mae Cymru wedi cymhwyso am y tro cyntaf ers 1958, a byddan nhw’n herio’r Unol Daleithiau, Lloegr ac Iran yn eu grŵp.

Fe wnaeth Robson-Kanu serennu i Gymru yn Ewro 2016, gyda’i gôl gofiadwy yn erbyn Gwlad Belg yn cael ei dewis fel gôl orau’r gystadleuaeth.

Mae ITV ymhlith y sianeli fydd yn darlledu’r gystadleuaeth, gyda gemau byw ac uchafbwyntiau ar gael ar draws eu holl blatfformau, gan gynnwys digidol a chyfryngau cymdeithasol.

Mark Pougatch, Laura Woods a Seema Jaswal fydd yn cyflwyno rhaglenni ITV, tra bydd y pynditiaid yn cynnwys Ian Wright, Roy Keane, Gary Neville, Karen Carney, Graeme Souness, Joe Cole, Eniola Aluko, Nigel De Jong a Nadia Nadim.

Y sylwebyddion fydd Sam Matterface, Clive Tyldesley, Jon Champion, Seb Hutchinson a Joe Speight, ochr yn ochr â’r cyd-sylwebyddion John Hartson, Lee Dixon, Ally McCoist ac Andros Townsend.

Y gohebwyr fydd Michelle Owen a Gabriel Clarke, gyda Peter Walton yn cynnig sylwadau fel dyfarnwr.

Ymhlith y gemau cyntaf ar ITV fydd gêm Cymru yn erbyn yr Unol Daleithiau ar Dachwedd 21, am 7 o’r gloch y nos.

Arlwy S4C – pob gêm Cymru yn Gymraeg

Bydd S4C yn dangos pob gêm Cymru yn fyw yn ystod Cwpan y Byd, ac yn canolbwyntio ar un tîm yn unig yn ystod y bencampwriaeth hanesyddol hwn.

Bydd arlwy S4C hefyd yn adlewyrchu’r cyffro ar draws y wlad, gyda’r rhaglenni yn cynnwys digonedd o amser i adeiladu at bob gêm, gyda chyfweliadau gan y chwaraewyr a’r newyddion diweddaraf o garfan Cymru.

Yn arwain tîm S4C yn Qatar fydd y cyflwynydd Dylan Ebenezer.

“Mae cefnogwyr Cymru wedi dilyn y tîm arbennig yma ar S4C ers blynyddoedd – ac mae hi’n anhygoel bod y daith wedi mynd a ni’r holl ffordd i Gwpan y Byd FIFA,” meddai.

“Ry’n ni gyd yn cefnogi Cymru’n angerddol a ‘da ni gyd eisiau gweld Gareth Bale a’r bois yn efelychu John Charles ac arwyr 1958 – a mynd hyd yn oed yn bellach.

“Dwi wedi bod yn ddigon lwcus i fynd i ddwy Bencampwriaeth Ewrop fel rhan o dîm S4C, ond mae Cwpan y Byd yn mynd i fod yn sbesial iawn i bawb yng Nghymru – i’r chwaraewyr, cefnogwyr, ac i ni sy’n ddigon ffodus i gael gweithio yn Qatar.

“Mi fyddwn ni’n dod ag awyrgylch y stadiwm i ystafelloedd byw, tafarndai a chlybiau pêl-droed ledled Cymru. Beth bynnag sy’n digwydd, mi fyddwn ni’n gweld hanes yn cael ei greu yn fyw ar S4C.”

Mi fydd tair gêm Cymru yng Ngrŵp B yn cael eu cynnal yn Stadiwm Ahmad bin Ali yn Al Rayyan, ac yno gyda’r newyddion diweddaraf o’r ystlys bydd y gohebydd, Sioned Dafydd.

“S4C yw dewis cefnogwyr Cymru ar gyfer Cwpan y Byd FIFA,” meddai.

“Mae’n fraint ac anrhydedd enfawr i ddilyn Cymru mewn Cwpan y Byd gyda chriw S4C ac mae’n wych bod pob gêm i’w gweld yn yr iaith Gymraeg.

“Roedd gweithio ar y gêm yn erbyn Wcráin ym mis Mehefin yn un o uchafbwyntiau fy ngyrfa ac un o nosweithiau gorau fy mywyd. Dwi’n gobeithio byddwn ni’n gweld mwy o achlysuron anhygoel fel hyn yn Qatar.”

Yn y blwch sylwebu gyda Nic Parry fydd cyn-ymosodwr Cymru Gwennan Harries, a sgoriodd 18 gôl wrth ennill 58 o gapiau dros ei gwlad.

“Roeddwn i mor gyffrous pan glywais fy mod i’n gweithio yng Nghwpan y Byd, bron yr un mor gyffrous â phan ges i’r alwad am fy nghap cyntaf i!” meddai.

“Rwy’n edrych ymlaen at fynd allan yna i weld Cymru yn cystadlu yng nghystadleuaeth fwyaf y byd pêl-droed, a gobeithio gweld perfformiadau byddwn ni’n cofio am flynyddoedd a degawdau i ddod.”

Ac yn dadansoddi’r cyfan fydd Owain Tudur Jones, cyn-chwaraewr canol cae Cymru, oedd wedi ennill saith cap dros ei wlad.

Bydd mwy o aelodau tîm Cwpan y Byd S4C yn cael eu datgelu ar gyfryngau cymdeithasol @S4Cchwaraeon dros yr wythnosau nesaf.

“Mae gwylio Cymru yn cymryd eu lle ymysg timau gorau’r byd mewn Cwpan y Byd yn rhywbeth rydan ni gyd wedi breuddwydio amdano,” meddai Owain Tudur Jones.

“I fi, roedd chwarae i Gymru mewn Cwpan y Byd yn freuddwyd hefyd, ond er wnaeth hynny ddim cweit gweithio allan, dyma ydi’r peth agosaf wna’i brofi at hynny.

“Felly alla i ddim disgwyl i fod yno i weld darn arbennig o hanes pêl-droed Cymru yn cael ei greu, ac wrth gwrs, i glywed yr anthem am y tro gyntaf.”

Bydd darllediadau o gemau Cymru yn ystod Cwpan y Byd FIFA 2022 yn cael eu cynhyrchu gan BBC Cymru, ar ran S4C.

I ddathlu holl gyffro Cwpan y Byd, bydd S4C yn dangos sawl rhaglen dros y cyfnod yn dathlu hanes a ddiwylliant y bêl gron yng Nghymru.

Byddwn ni’n hiraethu am unig ymddangosiad blaenorol Cymru yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn y ddogfen, Bois ’58, ac yn ail-fyw’r ymgyrch hanesyddol diweddar i gyrraedd Cwpan y Byd 2022 yn Pob Cam i Qatar.

Bydd y wledd o bêl-droed hefyd yn cynnwys y ffilm gan Jonny Owen, Cewri Cwpan y Byd, sy’n olrhain trawsnewidiad llewyrchus pêl-droed yng Nghymru dros y dau ddegawd diwethaf, yn ogystal â rhaglen arbennig sy’n adrodd yr hanes tu ôl i’r gân gan Dafydd Iwan, Yma o Hyd, sydd bellach wedi ei mabwysiadu fel anthem answyddogol gan y tîm a’r cefnogwyr.

Bydd sianelau cyfryngau cymdeithasol S4C yn cynnig cynnwys a diweddariadau dyddiol o Qatar yn ystod Cwpan y Byd FIFA, yn ogystal â rhaglenni rhagolwg y noson cyn bob gêm Cymru.