Mae tîm ddaeth i frig Adran Un Cynghrair Arfordir Gogledd-ddwyrain Cymru yn gofyn am gymorth ar ôl i’w cais am ddyrchafiad gael ei wrthod y llynedd oherwydd cyfleusterau annigonol.

Gorffennodd tîm dynion Clwb Pêl-droed Abergele dymor 2021-22 chwe phwynt ar y blaen i Gerrig-y-Drudion a ddaeth yn ail, ond gan mai benthyg y cae gan ysgol leol mae’r clwb, doedd hi ddim yn bosib i’r clwb godi’n uwch na haen isaf pêl-droed gogledd Cymru.

Roedd y tîm yn bwriadu gwneud cais am grant drwy Sefydliad Pêl-droed Cymru a gafodd ei lansio ddoe (dydd Iau, Hydref 27), sy’n rhoi’r cyfle i dimau pêl-droed ar lawr gwlad wneud cais am gymorth ariannol.

Mae dwy grant ar gael sef Addas ar Gyfer y Dyfodol, sy’n cynnig hyd at £30,000 tuag at offer, ac un arall sy’n cynnig hyd at £300,000 tuag at gyfleusterau.

Dyrchafiad yn bosib unwaith eto

Byddai’r cae sydd gan y clwb ar hyn o bryd yn dderbyniol pe bai bariau diogelwch o amgylch y cae, ond dydi hyn ddim yn bosib gan nad ydyn nhw’n berchen ar y cae.

“Dydi’r cyfleusterau sydd gennym ar hyn o bryd ddim yn ddigonol,” meddai Tommy Lloyd, chwaraewr ac aelod o bwyllgor Clwb Pêl-droed Abergele wrth golwg360.

“Fel tîm, rydyn ni’n anelu am rywbeth i’r gymuned allu ei ddefnyddio, nid dim ond ni fel clwb, jest fel y trefi o’n cwmpas sydd gan gyfleusterau gwell i’r gymuned ddefnyddio.

“Rydyn ni ar dop y gynghrair ar y funud o saith pwynt, felly mae’n bosib bod dyrchafiad ar y cardiau eto.

“Rydyn ni’n edrych yn dda ac yn trio gwneud popeth rydyn ni’n gallu i weithio efo’r awdurdodau lleol i ddod o hyd i gae addas.

“Mae’n rhaid i ni rŵan oedi ein cais am grant nes y rownd nesaf gan fod angen prydles tymor hir neu ein bod yn berchen ar dir.”

Sicrhau rhywbeth i’r gymuned

Ar hyn o bryd, dydi’r clwb ddim yn sicr o le ddaw’r arian am gae newydd.

“Dydyn ni ddim yn siŵr os mai’r clwb fydd angen casglu arian neu a fyddai’r cyngor yn prydlesu cae i ni,” meddai Tommy Lloyd wedyn.

“Mae’n anodd achos mae hyn yn mynd ymlaen ers blynyddoedd…

“Dw i’n 30 rŵan ac mae hyn wedi bod yn mynd ymlaen ers dw i’n chwarae pêl-droed.

“Mae tîm Abergele wedi gorfod newid lleoliad gan ein bod wedi bod yn y sefyllfa ble maen nhw’n gwrthod ein dyrchafiad o’r blaen.

“Rydyn ni hyd yn oed wedi gorfod symud tref a chwarae dan enw tîm gwahanol.

“Ond rydyn ni’n cyrraedd yr amser ble mae gennym ni blant ac yn cyrraedd diwedd ein gyrfaoedd yn chwarae, a jest eisiau sicrhau bod yna rywbeth yna i’r gymuned.

“Rydyn ni fel clwb yn gwneud popeth i ddiogelu’r cyfleusterau mae’r dref yn eu haeddu, ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn i’r gymuned am bob cymorth.”