Mae Russell Martin, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi cadarnhau na fydd Joe Allen yn chwarae i’w glwb cyn Cwpan y Byd.
Daw hyn wrth i’r chwaraewr canol cae barhau i wella o anaf i linyn y gâr.
Doedd e ddim ar gael i dîm Rob Page ar gyfer y gemau yn erbyn Gwlad Belg a Gwlad Pwyl yng Nghynghrair y Cenhedloedd fis diwethaf, a dydy e ddim wedi chwarae i’w glwb ers y gêm yn erbyn Hull yn y gêm olaf cyn y ffenest ryngwladol.
Mae’r Cymro Cymraeg wedi gweld arbenigwr yr wythnos hon yn y gobaith o fod yn holliach erbyn i garfan Cymru adael am Qatar ganol mis nesaf, ond dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd faint fydd e’n chwarae yn ystod y gystadleuaeth, ar ôl i Gymru gymhwyso am y tro cyntaf ers 1958.
Dros y dyddiau diwethaf, mae Rob Page wedi dweud bod “posibilrwydd cryf” y bydd e’n teithio gyda’r garfan.
“Dw i ddim yn meddwl y bydd Joe yn chwarae i ni cyn Cwpan y Byd,” meddai Russell Martin.
“Rydyn ni’n onest am hynny.
“Rydyn ni’n tynnu het Abertawe, a bydd ein holl sylw nawr ar Joe a’i baratoi e i chwarae ar y llwyfan mawr gyda’i wlad.
“Mae pawb yn y clwb yn canolbwyntio ar ei baratoi e ar gyfer Cwpan y Byd.
“Os gallwn ni wneud hynny, a’i fod e’n gwneud yn dda i Gymru, mae hynny’n fanteisiol i ni fel clwb pan ddaw e’n ôl.
“Mae hi bob amser yn fater o roi’r chwaraewr a’r person yn gyntaf.
“Bydd e’n rhoi popeth sydd gyda fe – fel y byddwn ni hefyd – i’w gael e yn Qatar.”