Mae Elinor Snowsill, maswr tîm rygbi merched Cymru, yn dweud nad oes ganddyn nhw ddim byd i’w golli wrth iddyn nhw herio’r ffefrynnau Seland Newydd yng Nghwpan y Byd yn Whangarei ddydd Sadwrn (Hydref 29).
Mae’n dweud ei bod hi’n deall pam nad yw’r arbenigwyr yn credu y gall Cymru gyflawni’r annisgwyl yn eu gêm yn erbyn y tîm cartref yn rownd wyth ola’r gystadleuaeth, ar ôl i’r Black Ferns guro’r crysau cochion o 56-12 yn gynharach yn y twrnament.
Mae Cymru wedi hen arfer â chael eu diystyru, meddai, ac y gallan nhw dynnu ar y ffaith y byddan nhw’n ceisio ennill yn erbyn y ffactorau.
“Os collwn ni, dyma fydd y gêm olaf fyddwn ni’n ei chwarae fel grŵp allan yma yn Seland Newydd, felly os nad yw hynny’n ysgogiad, dw i ddim yn gwybod beth fyddai hwnnw,” meddai’r maswr 33 oed ar drothwy’r gêm sy’n fyw ar S4C Clic ac a fydd yn cael ei hailddarlledu yn ei chyfanrwydd yn ddiweddarach.
“Byddwn ni’n chwarae â’n calonnau ac yn gadael dim byd allan yno.”
Cymru – yn erbyn y ffactorau
Dyma’r pedwerydd tro i Elinor Snowsill chwarae yng Nghwpan y Byd, ac felly mae ganddi gryn brofiad fydd o gymorth i Gymru.
Yn 2015, fe wnaeth Cymru guro Lloegr, sydd bellach ar rediad o 28 gêm heb golli, ac fe guron nhw Ffrainc y flwyddyn ganlynol.
“Roedd y fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr yn 2015 yn ganlyniad gwych, ond roedd llawer o’u sêr newydd adael y tîm pymtheg bob ochr i fynd i chwarae saith bob ochr,” meddai.
“Felly i fi, y canlyniad gorau oedd y flwyddyn ganlynol yn 2016 pan wnaethon ni guro Ffrainc.
“Dyna’u tîm llawn nhw yn erbyn ein tîm llawn ni, ac fe wnaethon ni eu hateb nhw’n gorfforol, a dyna’r gwahaniaeth mawr y diwrnod hwnnw.
“Fe wnaethon ni wir sefyll lan iddyn nhw a’u bwrw nhw’n ôl i ddal ein tir yn eu herbyn nhw, wedyn wnaethon ni weithredu a sgorio pan gawson ni’r cyfleoedd.
“Dyna, 100%, fydd angen i ni ei wneud ddydd Sadwrn.
“Mae Seland Newydd yn dîm corfforol iawn, ond eto os ydyn ni’n eu hateb nhw, bydd yn rhaid i ni gymryd ein cyfleoedd.”
Mae’n pwysleisio nad yw Cymru wedi chwarae am 80 munud llawn mewn unrhyw gêm hyd yn hyn, ond y bydd yn rhaid i hynny newid yn erbyn Seland Newydd.
“Rydyn ni’n gwybod fydd yn rhaid i ni dynnu rhywbeth allan nad oes neb wedi’i weld eto,” meddai.
“Rydyn ni wedi dangos arwyddion, mae peth o’n hymosod ni wedi bod yn dda iawn ar adegau, mae ein chwarae gosod wedi bod yn rhagorol ar adegau, a’n hamddiffyn ni hefyd.
“Ond nawr, mae’n rhaid iddo fe i gyd ddod at ei gilydd ac mae’n rhaid i ni allu ei wneud e’n gyson am yr 80 munud cyfan.”
Dim bwriad i ymddeol – a llygadu 2025
Mae Elinor Snowsill yn mynnu na fydd hi’n ymddeol pe bai Cymru’n mynd allan o’r gystadleuaeth y penwythnos hwn.
I’r gwrthwyneb, mae hi’n barod i ystyried chwarae tan Gwpan y Byd yn 2025, ei phumed Cwpan Byd.
“Dw i heb wneud unrhyw benderfyniad,” meddai.
“Mae pobol wedi dweud wrtha i eu bod nhw’n gwybod pan ddaeth yr amser i ymddeol, a dw i ddim wedi teimlo hynny eto.
“Dw i’n credu y byddai’n drueni, ar ôl gweithio’n galed ers dros ddegawd yn ceisio jyglo gwaith a rygbi, pe bawn i’n rhoi’r gorau iddi naw mis ar ôl derbyn cytundeb proffesiynol.
“Dw i ddim yn agos at gyflawni fy mhotensial nac yn agos i fod ar fy ngorau, dw i’n gwybod hynny.
“Dw i’n awyddus i weld lle gall hynny fynd.
“Dim ond tair blynedd i ffwrdd mae’r Cwpan Byd nesaf.”
- Mae modd gwylio’r gêm, gyda’r gic gyntaf am 7.30yb, ar S4C Clic, tudalen Facebook S4C Rygbi, a sianel YouTube S4C