Mae Ioan Cunningham, prif hyfforddwr tîm rygbi merched Cymru, yn dweud ei fod e’n falch o’r garfan, er bod eu colled o 55-3 yn erbyn Seland Newydd yn golygu eu bod nhw allan o Gwpan y Byd.

Roedden nhw’n herio’r ffefrynnau a’r pencampwyr presennol yn rownd yr wyth olaf, ac fe ddangosodd y Black Ferns eu doniau wrth sgorio naw cais ar eu tomen eu hunain.

Sgoriodd yr asgellwraig Portia Woodman ddau gais i sicrhau ei lle yn y llyfrau hanes, gan nad oes neb wedi sgorio mwy o geisiau yn hanes Cwpan y Byd, wrth iddi sgorio ei chweched a’i seithfed yn y gystadleuaeth hon i gyrraedd 20 ar y cyfan.

Cafodd Cymru sawl cyfle i sgorio, gydag Elinor Snowsill yn methu gyda chic gosb at y pyst.

Dim ond Keira Bevan sgoriodd i Gymru, gyda chic gosb.

Bydd Seland Newydd yn herio Ffrainc yn y rownd gyn-derfynol, ond mae Cymru ar eu ffordd adref ar ôl ennill dim ond un gêm yn erbyn yr Alban.

Lloegr fydd yn herio Awstralia yn y gêm gyn-derfynol arall.

“Dw i’n eithriadol o falch ohonyn nhw,” meddai Ioan Cunningham am dîm Cymru.

“Ro’n i’n meddwl bod yr ymdrech wnaethon nhw allan yno’n anhygoel.

“Wnaethon ni sgramblo’n dda iawn.

“Ro’n i’n meddwl ein bod ni wedi cystadlu’n gorfforol, gan greu llawer o drafferth i’r Black Ferns a dw i jyst yn falch iawn.

“Fe wnaehton ni ofyn iddyn nhw wagio popeth oedd ganddyn nhw heno, llenwi’r crys gyda phopeth oedd ganddyn nhw, chwarae am rywbeth y tu mewn iddyn nhw, ac ro’n i’n meddwl eu bod nhw wedi gwneud hynny.”