Bydd tîm pêl-droed Cymru’n ystyried defnyddio’r enw uniaith Gymraeg ‘Cymru’ ar y llwyfan rhyngwladol ar ôl Cwpan y Byd.

‘Cymru’ – yr enw uniaith Gymraeg – sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru wrth gyfathrebu’n fewnol ac yn allanol, a hefyd gan staff ym mhencadlys y corff llywodraethu ym Mro Morgannwg.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru’n bwriadu siarad â rhanddeiliaid amrywiol yn y byd pêl-droed yng Nghymru ynghylch newid i enw uniaith Gymraeg mewn cystadlaethau rhyngwladol.

Mae Press Association yn adrodd bod trafodaethau anffurfiol eisoes wedi’u cynnal gydag UEFA.

‘Mwy o waith i’w wneud’

“Dylai’r tîm gael ei alw’n ‘Cymru’ bob amser, dyna beth rydyn ni’n ei alw fan hyn,” meddai Noel Mooney, prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

“Ein barn ni ar hyn o bryd yw ein bod ni’n amlwg yn cael ein galw’n ‘Cymru’ yn ddomestig.

“Dyna beth rydyn ni’n galw’n timau cenedlaethol.

“Os edrychwch chi ar ein gwefan, sut rydyn ni’n siarad amdanom ein hunain, ‘Cymru’ ydyn ni i raddau helaeth.

“Yn rhyngwladol, rydyn ni’n teimlo bod gennym ni ychydig mwy o waith i’w wneud eto.

“Felly fel ‘Cymru’ rydym yn mynd i’r Cwpan y Byd hwn.

“Ond rwy’n meddwl y bydd 2023 yn flwyddyn pan fyddwn yn cael trafodaeth dda gyda’r holl randdeiliaid gwahanol – boed hynny’n Llywodraethau, ein byrddau ein hunain, cynghorau a chyrff gwneud penderfyniadau, staff, clwb a chwaraewyr.

“Rydym yn sefydliad democrataidd agored iawn ac nid ydym yn penderfynu’n unochrog heddiw i wneud rhywbeth felly.

“Byddwn i’n dweud mai dyma’r cyfeiriad, ond does dim penderfyniadau pendant yn ei gylch.”

‘Adfywiad yn yr iaith Gymraeg’

Daeth y posibilrwydd o ddefnyddio enw uniaith i’r amlwg yn gynharach y mis hwn pan gafodd tîm Robert Page eu tynnu o’r het i fod yn yr un grŵp rhagbrofol Ewro 2024 â Thwrci.

Ers mis Mehefin eleni, mae Twrci yn cystadlu ar y llwyfan rhyngwladol fel ‘Turkiye’, ar ôl i’r llywodraeth yn Ankara ofyn bod y wlad yn cael ei hadnabod yn fyd-eang wrth ei henw brodorol, ac nid y fersiwn Seisnigedig.

“Rydych chi wedi gweld gwledydd fel Azerbaijan, Twrci ac eraill yn defnyddio eu hiaith eu hunain,” meddai Noel Mooney.

“Maen nhw’n eithaf cryf yn hynny o beth, ac fe wnaethon ni siarad â Thwrci amdano.

“Rydym hefyd wedi cael trafodaethau answyddogol gydag UEFA dros goffi mewn gwahanol ddigwyddiadau, gan ofyn sut y gwnaeth Twrci hyn, sut y gwnaeth gwledydd eraill hynny.

“Rydym wedi gofyn beth yw eu cyfeiriad teithio, er enghraifft a oes symudiad tuag at bobol yn defnyddio eu hiaith frodorol?

“Yr hyn rydw i’n ei wybod yw fod yna adfywiad yn yr iaith Gymraeg ac ymdeimlad o falchder mawr yn yr hyn rydyn ni’n ei wneud gyda’r diwylliant a’r dreftadaeth.”

Byddai defnyddio’r enw uniaith ‘Cymru’ yn rhoi terfyn ar y traddodiad mai Cymru yw’r wlad olaf yn nhrefn yr wyddor o blith 55 o aelodau UEFA mewn gemau a chystadlaethau amrywiol.

“Rydyn ni’n eistedd wrth ymyl Wcreniaid drwy’r amser ac mae hynny’n braf oherwydd rydyn ni wedi dod yn ffrindiau da gyda nhw,” meddai Mooney, Gwyddel sy’n dysgu Cymraeg ac sydd wedi gosod targed iddo’i hun o gynnal sesiwn Holi ac Ateb yn yr Eisteddfod Genedlaethol haf nesaf.

“Ond hoffem eistedd wrth ymyl y Croatiaid a’r Tsieciaid ychydig yn fwy.”