Mae cân enwocaf Dafydd Iwan ‘Yma o Hyd’ wedi cael ei hail-gymysgu o’r tapiau gwreiddiol gyda lleisiau’r Wal Goch i greu’r trac cyffrous a fydd yn anthem swyddogol ar gyfer ymgyrch tîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd yn Qatar.

Cafodd meicroffonau cudd eu gosod yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn ystod y ddwy gêm yn erbyn Awstria ac Wcráin i recordio dros 70,000 o leisiau’r Wal Goch yn cyd-ganu gyda Dafydd Iwan, wrth i Gymru greu hanes a chyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.

Mae’r recordiad hefyd yn cynnwys lleisiau carfan Cymru wrth iddyn nhw ganu’n llawn angerdd gyda Dafydd Iwan ar y cae wedi’r fuddugoliaeth dros Wcrain – a gafodd ei sicrhau drwy gic rydd Gareth Bale.

Cafodd ‘Yma o Hyd’ ei recordio’n wreiddiol gan Dafydd Iwan ac Ar Log yn 1983 fel cân herfeiddiol i ddathlu goroesiad yr iaith Gymraeg a Chymru er gwaetha’r holl elfennau yn eu herbyn.

Mae’n dathlu goroesiad un o ieithoedd hynaf y byd.

Mae’r gân bellach yn gyfystyr â llwyddiannau diweddar timau cenedlaethol Cymru, a bu Dafydd Iwan yng nghwmni’r ddau dîm – y merched a’r dynion – i egluro arwyddocâd hanesyddol y geiriau.

“Tyfodd ‘Yma o Hyd’ i fod yn fath o slogan cenedlaethol, a bellach mae’r gân a roddodd fodolaeth newydd iddo yn anthem swyddogol y tîm cenedlaethol ar gyfer Cwpan y Byd,” meddai Dafydd Iwan.

“Mae’n freuddwyd amhosib wedi dod yn wir, ac y mae sain rhyfeddol y Wal Goch ar y trac newydd yn gyffrous ac ysbrydoledig.

“Mae’r fersiwn yma o Yma o Hyd yn cofnodi achlysur arbennig iawn yn hanes Cymru, pan wnaeth angerdd lleisiau gwych y cefnogwyr helpu Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd.

“Ni fydd gan unrhyw genedl arall ddim tebyg i hyn i ysbrydoli eu tîm ar y llwyfan mwyaf yn y byd. Felly, c’mon Cymru, dewch inni ddangos i’r byd ein bod ni yma!”

Bydd y fideo swyddogol i fynd gyda’r recordiad yn cael ei ryddhau ar sianelau digidol Gymdeithas Bêl-droed Cymru ar Dachwedd 7.

Yr un pryd, bydd Sain yn rhyddhau’r trac i’w ffrydio a’i lawrlwytho ar y prif blatfformau digidol.

Yr wythnos ganlynol, bydd Sain yn rhyddhau fersiwn ar CD a fydd hefyd yn cynnwys recordiad o’r Wal Goch yn canu Hen Wlad fy Nhadau, ac a fydd ar gael mewn siopau ac i’w archebu (pris manwerthu £2.99) drwy www.sainwales.com, gydag unrhyw elw yn mynd tuag at adnoddau pêl-droed llawr gwlad.