Mae yna fwy i’r Wal Goch na dilyn pêl-droed, medd golygydd cyfrol newydd sy’n rhoi sylw i gefnogwyr Cymru.
Erbyn hyn, mae’r Wal Goch wedi dod i gynrychioli’r Gymru gyfoes, yn ôl Ffion Eluned Owen, golygydd Y Wal Goch: Ar Ben y Byd.
Mewn casgliad o ysgrifau a cherddi gan 18 cyfrannwr – o enwau cyfarwydd fel Dafydd Iwan a Gwennan Harries, i gefnogwyr pybyr a lleisiau newydd – cawn glywed gan y rhai sydd wedi bod yn dyst i lwyddiant tîm Cymru.
Rhwng cloriau’r gyfrol, mae hanesion dilyn y tîm i bedwar ban byd, cip ar y caneuon, yr hwyl a’r ffasiwn, a golwg ar y twf mewn balchder tuag at Gymreictod a’r Gymraeg.
A hithau’n mynd i gemau cartref ers 2012, ac wedi bod yn dilyn Cymru ar deithiau tramor ers ychydig cyn Ewros 2016, roedd cael cynnig gan Y Lolfa i olygu cyfrol o’r fath at ddant Ffion Eluned Owen, sydd wedi ysgrifennu doethuriaeth ar ddiwylliant llenyddol Dyffryn Nantlle.
“Dw i’n caru pêl-droed, caru llyfrau, caru geiriau,” meddai Ffion Eluned Owen, sy’n gweithio i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, wrth golwg360.
“Mae o wedi bod yn gyffrous dod â fy nau brif ddiddordeb i at ei gilydd – llyfrau a phêl-droed.”
Lleisiau cyfarwydd a newydd’
Mae cyfraniadau yn y gyfrol gan Greg Caine, Garmon Ceiro, Iolo Cheung, David Collins, Tommie Collins, Rhian Angharad Davies, Meilyr Emrys, Annes Glynn, Gwennan Harries, Rhys Iorwerth, Dafydd Iwan, Llion Jones, Bryn Law, Sarah McCreadie, Penny Miles, Sage Todz ft. Marino a Fez Watkins.
“Roedd o’n bwysig i ni, a’r Lolfa, ein bod ni’n cael amrywiaeth o brofiadau, ein bod ni’n cael lleisiau cyfarwydd ond ein bod ni hefyd yn cael lleisiau newydd – pobol oeddwn i’n gwybod sydd gan stori dda,” meddai Ffion Eluned Owen.
“Mae profiad pawb o wylio Cymru’n wahanol. Mae yna leisiau newydd yn y gyfrol, weithiau ti jyst yn gorfod meddwl tu allan i’r bocs.
“Roeddwn i eisiau pobol o bob cwr o Gymru, ac mae gen i [rai] o bob ardal o Gymru – lot o’r gogledd orllewin, Bryn Law a Rhian [Angharad Davies] o’r gogledd ddwyrain, Garmon [Ceiro] o Aberystwyth, dau o Sir Benfro, a lot o rai sy’n byw yng Nghaerdydd.”
Natur ddwyieithog dilyn Cymru
Dydy pawb sydd wedi cyfrannu tuag at y llyfr ddim yn siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf, ac roedd hynny’n bwysig, yn ôl y golygydd.
“Mae’r elfen a’r atmosffer dwyieithog yma o ddilyn Cymru wedi dod yn rhan fawr, fawr o’r Wal Goch, a does yna ddim osgoi, yn y llyfr, y dylanwad a’r twf yma yn y balchder tuag at y Gymraeg a Chymreictod,” meddai.
“Mae yna tua phedwar neu bump o gyfranwyr sydd wedi dysgu Cymraeg, mae hynny wedi bod yn neis, rhoi llais iddyn nhw.
“Rydyn ni wedi cyfieithu rhai o’r penodau, ac rydyn ni wedi gadael dwy bennod yn Saesneg. Oherwydd natur y penodau roedden nhw’n gweithio’n well oherwydd y dweud mewn Saesneg.
“Mae’r elfen yna’n rhan ohono i adlewyrchu’r natur ddwyieithog o ddilyn Cymru.”
‘Cynrychioli’r Gymru gyfoes’
Mae pob darn yn “arbennig yn eu ffordd eu hunain”, o bennod Bryn Law, sy’n sôn am sut beth oedd dilyn Cymru yn yr 1980au, a sut oedd hynny’n gysylltiedig â cherddoriaeth a ffasiwn y cyfnod, i ddarn Greg Caine, sy’n trafod ei hunaniaeth.
“Mae o’n dod o dde Sir Benfro ac mae ei bennod o’n sôn am sut bod bod yn rhan o’r Wal Goch wedi gwneud iddo fo edrych eto ar ei hunaniaeth ei hun, a sylwi nad wyt ti’n gorfod dod o rannau penodol o Gymru i fod yn ‘Gymry go iawn’,” meddai Ffion Eluned Owen.
“Mae honna’n ddifyr o ran y lleisiau newydd a phrofiadau pobol sydd ddim fel arfer yn cael eu clywed. Mae hynny’n rhan o be’ mae dod i gefnogi Cymru wedi dod i’w gynrychioli.
“Mae o’n fwy na phêl-droed, mae o lot i’w wneud efo hunaniaeth, lot i’w wneud efo mynegi pwy ydyn ni fel Cymry.
“Mae’r Wal Goch wedi dod, rywsut, i gynrychioli’r Gymru gyfoes yma, y Gymru fodern.
“Mae o wedi dod yn rhan arbennig o sut rydyn ni’n mynegi’n hunaniaeth Gymreig. Mae o’n fwy na dilyn pêl-droed.
“Rydyn ni i gyd yna’n bennaf oherwydd be’ sy’n digwydd ar y cae pêl-droed, ond mae yna gymaint mwy na hynny sy’n ein denu ni’n ôl gêm ar ôl gêm, taith ar ôl taith.
“Y pwysigrwydd ydy’r llwyfan yma i gael bod yn Gymry, cenedl bêl-droed annibynnol.
“Rydyn ni’n cael bod yn Gymry, mae lot o’r bobol sy’n dilyn pêl-droed Cymru, dim pawb, yn meddwl yr un fath am Gymru – eisiau gweld yr un fath o Gymru dw i eisiau ei gweld.
“Mae yna elfen gref o bobol sy’n meddwl yr un peth â fi am Gymru, am Gymreictod, am y Gymraeg.
“Mae o’n wych i’w weld, efallai bod hynny wedi bod ar goll.”
- Bydd lansiad Y Wal Goch: Ar Ben y Byd (Y Lolfa) yn cael ei gynnal ym Mhant Du ym Mhenygroes nos Lun nesaf (Tachwedd 7) yng nghwmni’r golygydd Ffion Eluned Owen, Iolo Cheung, Mei Emrys, Tommie Collins, ac ambell un arall.