Mae Mici Plwm wedi ymuno â thîm cyflwynwyr Radio Ysbyty Gwynedd, ac fe fydd yn cyflwyno rhaglen wythnosol o’r enw ‘Ddoe yn ôl yng nghwmni Mici Plwm’.

Mae Kevin Williams, cadeirydd Radio Ysbyty Gwynedd, yn dweud ei fod e wrth ei fodd o gael croesawu’r actor, DJ a Maer Pwllheli i’r tîm.

“Mae’n newyddion gwych bod Mici Plwm yn ymuno â ni ar Radio Ysbyty Gwynedd fel cyflwynydd,” meddai.

“Mae Mici yn eicon Cymreig gyda chymaint o atgofion a cherddoriaeth arbennig i’w rhannu gyda chleifion Ysbyty Gwynedd a’n cymuned ehangach – fe fydd yn ased i’n gorsaf.

“Mae Radio Ysbyty Gwynedd yn mynd o nerth i nerth wrth ddatblygu ein gorsaf a denu sêr fel Mici Plwm ac Iona ac Andy i’n gorsaf”.

Mae Mici Plwm hefyd wedi cyffroi’n fawr o gael dechrau cyflwyno ei raglen radio newydd sbon ar yr orsaf.

“Dwi methu aros i ddechrau ar Radio Ysbyty Gwynedd!” meddai.

“Mae’r silffoedd o gannoedd o finyls yn fy nhŷ yn mynd i roi’r cyfle i mi unwaith eto archwilio cerddoriaeth arbennig ‘ddoe’ a rhannu gyda’r gwrandawyr.

“Byddaf yn rhannu cerddoriaeth y ‘dyddiau da’ roeddwn i’n arfer eu chwarae i ddiddanu tyrfaoedd yn ystod fy mlynyddoedd o deithio Cymru a thu hwnt gyda Disgo Teithiol Mici Plwm.”

Bydd rhaglen radio wythnosol ‘Ddoe yn ôl yng nghwmni Mici Plwm’ ar Radio Ysbyty Gwynedd yn cychwyn ar Dachwedd 10 rhwng 10.30yb a 12yp.

Gall cleifion yn Ysbyty Gwynedd wrando ar Radio Ysbyty Gwynedd ar sianel 1 ar eu clustffonau yn yr ysbyty, a gall y gymuned ehangach wrando ar-lein, trwy fynd i www.radioysbytygwynedd.com neu ap Radio Ysbyty Gwynedd.

Gyrfa

Dydy Mici Plwm ddim yn ddieithryn i gyflwyno, ac yntau wedi cyflwyno’r rhaglen deledu Disg a Dawn, yn ogystal â chyflwyno ar Radio Glamorgan a gorsafoedd radio ysbytai eraill yn y de yn y gorffennol.

Yn nyddiau cynnar S4C, sy’n dathlu 40 mlynedd o ddarlledu yr wythnos hon, chwaraeodd yr actor y cymeriad hoffus ‘Plwmsan’ yn y gyfres gomedi poblogaidd ‘Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan’ ymhlith sawl cyfres deledu Cymraeg eraill.

Mae Radio Ysbyty Gwynedd wedi bod yn darlledu ers 1976, gan ddathlu 45 mlynedd y llynedd ac ennill gwobr ‘Gorsaf Radio Ysbyty Orau’r Flwyddyn 2022’ ledled y Deyrnas Unedig gan y Gymdeithas Darlledu Ysbytai yn ddiweddar.

Mae’r orsaf hefyd wedi derbyn enwebiad yn y categori ‘Gorsaf Ddigidol neu RSL y Flwyddyn 2022’ yn y Gwobrau Radio Cymunedol Cenedlaethol.

Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol i’r orsaf gael ei henwebu ar gyfer y wobr genedlaethol hon.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni yn Bedford ar Dachwedd 19.