Bydd S4C yn trawsnewid i ddarlledu noson gyfan o gomedi nos Wener (Tachwedd 4), i ddathlu pen-blwydd y sianel yn 40 oed.
Bydd Noson Gomedi: Dathlu 40 yn dod yn fyw o Ganolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin, pencadlys S4C, rhwng 7 o’r gloch a 10 o’r gloch, ac yn cael ei llywio gan Emma Walford a Trystan Ellis-Morris, ynghyd â Maggi Noggi.
Yn rhan o arlwy’r noson, bydd Rownd a Rownd a Pobol y Cwm yn cael gweddnewidiad gomedi, a bydd cyfle i fwynhau Dim Byd fel Dim Byd gyda chyfranydd arbennig fydd yn siŵr o’ch synnu.
Bydd cyfle hefyd i fwynhau O’r Diwedd a chwmni drygionius Geraint Rhys Edwards yn ogystal â phennod arbennig o Hansh.
Rhwng y rhaglenni, bydd digonedd o sgetsys, sypreisys, gwesteion arbennig, a pherfformiadau stand yp, a’r comedïwr blewog oren, Gareth yr Ourangutang haerllyg.
Bydd criw Cabarela yn dod â dos o glitz a gigls gyda’u perfformiadau byw.
‘Darllediad arloesol’
Un sy’n edrych ymlaen at y noson pen-blwydd sy’n addo llond bol o chwerthin yw Trystan Ellis-Morris fydd yn cyd-gyflwyno gydag Emma Walford a Maggi Noggi.
“Mae’r ddau ohonom yn teimlo hi’n gymaint o fraint cael bod yn rhan o ddathliadau pen-blwydd arbennig S4C ond hefyd yn rhan o ddarllediad arloesol fydd yn edrych nôl ar ddeugain mlynedd o ddarlledu yn ogystal ag edrych ‘mlaen.
“Noson o gomedi fydd hi yng nghwmni gwesteion arbennig, sgetsys, cerddoriaeth byw a pherfformiadau di-ri ac yn gafael llaw y ddau ohonom ni drwy’r cyfan fydd yr un, yr unig Magi Noggi felly dyn a ŵyr be ddigwyddith?”
Felly ymunwch yn yr hwyl i godi gwydraid i nodi deugain mlynedd ers i S4C ymddangos ar einsetiau teledu!