Wrth i S4C ddathlu ei phen-blwydd yn 40 oed eleni (dydd Mawrth, Tachwedd 1), bydd Beti George yn parhau â’r traddodiad o ailymweld â rhai o Blant y Sianel.

Adeg pen-blwydd y sianel yn 10, 20 a 30 oed, bu’r gyflwynwraig yn cyfarfod â nifer o blant sy’n rhannu eu pen-blwydd â’r sianel, gan ofyn pwy yw eu harwyr, beth yw eu diddordebau a beth yw eu gobeithion ar gyfer y dyfodol.

Michael Taggart

Un o’r criw yw Michael Taggart, a oedd ddegawd yn ôl yn gweithio i’r heddlu yn ymateb i alwadau brys, ac mae bellach yn arwain tîm sy’n arloesi ym maes atal trais yn y cartref, sy’n agos iawn at ei galon.

Yn 1998, ac yntau’n 15 oed, cafodd ei fam ei llofruddio gan ei lys-tad.

“Dwi’n cofio oedd popeth jyst wedi mynd yn hollol ddu…Nes i jyst rhedeg lawr y prom – o’n i jyst ddim eisiau bod hefo’r ddau ddyn o’n i ddim yn nabod, oedd yn dweud wrtha fi fod mam wedi marw,” meddai.

Gobaith Michael yw y bydd ei waith gyda’r heddlu yn stopio’r fath drasiedi rhag digwydd i unrhyw un arall, ac mae wedi derbyn MBE am ei wasanaeth i ddioddefwyr trais yn y cartref yn sgil ei waith.

Er na all anghofio’r gorffennol, mae wedi llwyddo i ailadeiladu ei fywyd a ffeindio hapusrwydd unwaith eto gyda help ei ŵr Gary.

Yn ystod y degawd diwethaf, mae wedi bod yn gweld seiciatrydd i’w helpu gydag effeithiau Anhwylder Straen Wedi Trawma.

“Dwi byth am fod yn hollol mental health free, mae o’n rywbeth sydd am fod yn fy mywyd o hyd rŵan, maen nhw’n dweud, oherwydd beth sydd wedi digwydd.”

Karl Jones

Un arall o Blant y Sianel yw Karl Jones.

Ugain mlynedd yn ôl, roedd ei yrfa yn mynd o nerth i nerth ac roedd yn byw a gweithio yn Irac ac Affganistan fel aelod o’r Morlu Brenhinol.

Fe aeth i weithio fel gwarchodwr personol, gyda rocedi a bwledi yn saethu’n gyson i’w gyfeiriad.

Roedd yn agos iawn at farwolaeth sawl tro, gan gynnwys dau fws yn ffrwydro yn agos i’w gerbyd, a darganfod wedyn fod dros 40 o bobol wedi marw.

Yna, ddeng mlynedd yn ôl roedd yn bennaeth ar ei gwmni ei hun, yn amddiffyn llongau rhag mor-ladron oddi ar arfordir Somalia, gwaith peryglus ble roedd herwgipio ac arfau peryglus yn fygythiad beunyddiol.

Mae Plant y Sianel yn dod o hyd iddo yn Paris, ac erbyn hyn mae ganddo wraig a dau o feibion, ac er ei fod yn dal i weithio yn y diwydiant diogelwch mae mewn rôl sydd tipyn mwy diogel erbyn hyn, ac mae bywyd yn fwy tawel iddo.

“Dwi’n mynd adre bob dydd, cael coffi a croissant efo fy ngwraig,” meddai.

“Dwi’n hoffi mynd i’r parc efo Rio a dwi’n hoffi chwarae ar y cyfrifiadur efo Rocco.

“Mae’n fywyd gwahanol ond dwi ddim yn meddwl bo fi wedi newid.”

Mae’n mwynhau bywyd yn Paris ac er bod y cyfleoedd i siarad Cymraeg yn fwy prin erbyn hyn, mae Cymru a’r Gymraeg dal yn bwysig iawn iddo.

“Byddwn i’n dweud bod dim un wlad yn well na byw yng Nghymru,” meddai.

Glesni Haf Arfon-Powell, Dafydd Siôn Jones-Davies a Rachel Anderson

Yn ogystal â Karl Jones a Michael Taggart, bydd Beti George yn cwrdd eto a sawl un o’r grŵp yma o Gymry a gafodd eu geni yn yr un flwyddyn â’r sianel.

Yn eu plith mae Glesni Haf Arfon-Powell, sydd wedi gwireddu breuddwyd plentyndod o fod yn filfeddyg; Dafydd Siôn Jones-Davies, sydd wedi ffeindio’i le mewn bywyd; a Rachel Anderson sydd ar drothwy pennod newydd, gyffrous yn ei bywyd.

Mae’r rhain yn unigolion mae Beti George wedi dod i’w hadnabod yn dda dros y degawdau diwethaf.

“Mae’n anodd credu bod degawd arall wedi pasio ers i fi eu gweld ddiwethaf,” meddai.

“Eleni maen nhw, fel y sianel, yn dathlu eu pen-blwydd yn 40 oed, a dwi’n edrych mlaen i’w gweld unwaith eto ac i glywed eu hanes a ble maen nhw arni erbyn hyn.”

Dyma’r genhedlaeth sydd wedi tyfu i fyny gyda S4C.

A gyda’r plant a’r sianel ar drothwy carreg filltir arbennig, pa straeon sydd ganddyn nhw wrth i ddegawd arall yn eu bywydau ddirwyn i ben?