Bydd yr Athro Mererid Hopwood, sydd â Chadair Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn cymryd rhan mewn digwyddiad tridiau o sgyrsiau a pherfformiadau yn dathlu’r cysylltiadau diwylliannol a cherddorol parhaus rhwng Cymru ac Iwerddon.
Mae sesiynau Clebran, sydd eleni’n dwyn y teitl ‘Dychymyg Cysylltiedig’, yn rhan o’r ŵyl Lleisiau Eraill yn Aberteifi rhwng Tachwedd 3-5.
Mae’r ŵyl yn gyfres o sgyrsiau sydd wedi’i churadu gydag artistiaid, newyddiadurwyr, pobol greadigol a gwleidyddion, a fydd yn sbarduno trafodaethau ynghylch sut rydym yn gweld ein byd, ein hiaith a’n diwylliant.
Mewn trafodaeth banel dan arweiniad y darlledwr teledu a radio Huw Stephens, bydd yr Athro Mererid Hopwood yn ymuno â’i chyd-banelwyr – Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford a’r cerddor Gwyddelig Aoife Ní Bhriain – am drafodaeth ar y thema ‘Pwy ydym ni: Diwylliant, Hunaniaeth a’r Cymry a’r Gwyddelod ar Wasgar’.
Bydd y digwyddiad yn dechrau am 3.15yp ddydd Gwener, Tachwedd 4 ym Mwldan yn Aberteifi, a bydd y panel yn trafod sut mae tirweddau diwylliannol Cymru ac Iwerddon yn ganolog i’n hunaniaethau, i’r rhai sy’n byw gartref neu dramor, a beth allai’r cysylltiad hwn ei olygu i’r dyfodol rydym yn ei rannu.
Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys perfformiad gan Aoife Ní Bhriain.
Mae Mererid Hopwood yn Athro Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth, a hi yw ysgrifennydd yr Academi Heddwch.
Ymhlith y gwobrau mae hi wedi’u hennill am ei barddoniaeth a’i rhyddiaith mae Cadair, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol, gwobr barddoniaeth Llyfr Cymraeg y Flwyddyn a gwobr Tir na n’Og am ysgrifennu i blant.
Bu’n Fardd Plant Cymru ac mae wedi cymryd rhan mewn gwyliau llenyddol yn Ewrop, Asia a De America.
Mae wedi cyfansoddi geiriau ar gyfer cerddorion, artistiaid gweledol a dawnswyr, ac mae ei chyfieithiadau’n cynnwys gweithiau ar gyfer y llwyfan o’r Sbaeneg a’r Almaeneg.
‘Artistiaid hynod sy’n diogelu a hyrwyddo ieithoedd Celtaidd’
“Mae’r sgyrsiau a’r perfformiadau sy’n rhan o gyfres Clebran eleni yn cynnwys artistiaid hynod sy’n diogelu ac yn hyrwyddo ieithoedd Celtaidd trwy eu caneuon, ac sy’n dychmygu’r dyfodol trwy eu gwaith,” meddai’r Athro Mererid Hopwood.
“Fel rhan o raglen ‘Gwrando’ Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, sy’n ymateb yn rhannol i raglen Degawd Ieithoedd Brodorol UNESCO, bum yn ffodus i ymweld â Dulyn yn gynharach eleni a chyfarfod â sylfaenydd Lleisiau Eraill, Philip King.
“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr felly at barhau ac ehangu’r sgyrsiau ar yr ochr yma i Fôr Iwerddon.”
Bydd sesiynau Clebran ym Mwldan yn Aberteifi rhwng Tachwedd 3-5, ac maen nhw’n rhan o ŵyl Lleisiau Eraill Aberteifi mewn partneriaeth ag Ireland’s Edge.