Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi ei hadroddiad sicrwydd diweddaraf, a darlun cymysg sydd ynddo o safbwynt darparu gwasanaethau Cymraeg.

Mae’r adroddiad blynyddol hwn, sydd yn dwyn y teitl Y Gymraeg fel ffordd o weithio, yn gyfle i adlewyrchu ar y ffordd mae sefydliadau’n meddwl am y Gymraeg wrth lunio polisïau ac wrth gynllunio a chyflenwi gwasanaethau yn y Gymraeg.

Noda’r adroddiad yr heriau sydd wedi ein hwynebu i gyd dros y blynyddoedd diwethaf yn sgil y pandemig.

Mae nifer o gyrff wedi addasu yn llwyddiannus er mwyn cydymffurfio â dyletswyddau iaith, ond mae eraill sydd heb gymryd camau i’r cyfeiriad cywir, ac mae diffyg sylweddol wedi’i nodi mewn prosesau hysbysebu swyddi yn Gymraeg a recriwtio gweithlu dwyieithog.

Yn ôl Gwenith Price, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg, roedd tipyn o oddefgarwch yn ystod y pandemig ond mae angen i’r sefyllfa newid.

“Does dim dwywaith fod cyrff wedi wynebu heriau sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ac mae hynny’n wir yn enwedig yn y sector iechyd,” meddai.

“Ond mae angen i’r sector hwn yn benodol ystyried sut mae am gwrdd â gofynion y safonau gan fod ein canfyddiadau yn dangos ei fod yn perfformio’n sylweddol waeth na sectorau eraill.

“Mae’n angenrheidiol, os yw’r sefyllfa am wella, bod cydymffurfio gyda safonau’r Gymraeg yn cael lle blaenllaw yn y strategaeth ail godi.”

Casgliadau

Ymysg y prif gasgliadau mae’r ffaith fod 32% yn dweud bod y cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd wedi cynyddu.

Mae 84% o wefannau sefydliadau bellach ar gael yn y Gymraeg ac fe fu cynnydd yng ngallu sefydliadau i ddarparu gwasanaeth Cymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ond yn yr un modd, mae 10% o’r siaradwyr Cymraeg a gafodd eu holi yn dewis peidio â defnyddio’r Gymraeg oherwydd diffyg argaeledd gwasanaethau.

Caiff y Gymraeg ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg mewn 50% o hysbysebion swyddi, ac mae’r ymchwil yn dangos y byddai mwy o bobol yn debygol o ddefnyddio’r Gymraeg pe bai sefydliadau’n gwella’r ffordd maen nhw’n hwyluso a gwarantu gwasanaethau Cymraeg.

Mae’r maes recriwtio swyddi hefyd yn peri pryder i Gwenith Price.

“Gosododd y Comisiynydd her rai blynyddoedd yn ôl i sefydliadau i wella perfformiad wrth recriwtio gweithlu dwyieithog,” meddai.

“Mae’n siom gweld nad yw hynny wedi digwydd.

“Os am ddenu a datblygu gweithlu sy’n medru’r Gymraeg rwyf o’r farn fod angen cymryd camau chwyldroadol.

“Nid rhywbeth negyddol yw safonau iaith – maent yno i ddangos parch tuag at ddewis iaith ac i alluogi siaradwyr ym mhob man i allu byw eu bywydau yn y Gymraeg.

“Mae gan sefydliadau cyhoeddus Cymru rôl flaenllaw i’w chwarae wrth sicrhau fod y Gymraeg yn ffynnu, ac mae’r ffordd y maent yn cydymffurfio gyda dyletswyddau iaith yn allweddol bwysig.”