Bydd Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn ceisio ennill cymeradwyaeth aelodau seneddol i’w Bil i wahardd dweud celwydd mewn gwleidyddiaeth heddiw (dydd Gwener, Hydref 28).

Mae disgwyl i Fesur Cynrychiolwyr Etholedig (Gwahardd Twyll) gael ei ail ddarlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw, os bydd amser seneddol yn caniatáu.

Fe fydd Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd yn nodi, er i Rishi Sunak addo adfer “uniondeb ac atebolrwydd” i swydd y Prif Weinidog, ei fod yn parhau â’r patrwm o dwyll a gafodd ei osod gan ei ragflaenwyr.

Mae pwyllgor yn Nhŷ’r Cyffredin yn ymchwilio i Boris Johnson ar hyn o bryd i weld a oedd e wedi camarwain aelodau seneddol wrth siarad am bartïon yn Downing Street yn ystod y cyfnod clo.

Mae’r Pwyllgor Breintiau yn bwriadu dechrau clywed tystiolaeth mewn sesiynau cyhoeddus cyn diwedd mis Tachwedd.

Honnodd Rishi Sunak yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog yr wythnos hon fod Suella Braverman ei hun wedi codi mater ei thor-diogelwch, tra bod Jake Berry, cyn-gadeirydd y Blaid Geidwadol, yn honni bod tystiolaeth wedi’i chyflwyno i Suella Braverman a’i bod hi wedi derbyn y dystiolaeth.

‘Mecanweithiau presennol ddim yn ddigon’

Dywed Liz Saville Roberts nad yw’r mecanweithiau presennol yn ddigon i ddwyn geiriau gwleidyddion i gyfrif.

“Dechreuodd Rishi Sunak ei ddiwrnod cyntaf fel Prif Weinidog gan addo adfer uniondeb ac atebolrwydd i’r swydd,” meddai.

“Roedd celwyddau Boris Johnson yn amrywio o bartion yn Downing Street i lefelau tlodi ym Mhrydain, tra bod cyfnod byr Liz Truss yn gweld prosiect economaidd yn seiliedig yn gyfangwbl ar gelwyddau.

“Un diwrnod yn unig gymerodd hi i’r addewid hwnnw ddymchwel, gyda Sunak yn ailbenodi Ysgrifennydd Cartref a gafodd ei gorfodi i ymddiswyddo am dorri Cod y Gweinidogion chwe diwrnod yn gynharach.

“Honnodd y Prif Weinidog ddydd Mercher mai Suella Braverman ei hun gododd mater ei thor-diogelwch, tra bod cyn-gadeirydd y blaid Dorïaidd Jake Berry yn honni bod tystiolaeth wedi’i chyflwyno i Ms Braverman a dderbyniodd y dystiolaeth wedi hynny.

“Mae rhywun yn dweud celwydd. Ond yn anffodus, mae mecanweithiau senedd San Steffan i ddwyn gwleidyddion i gyfrif yn wan.

“Byddai fy Mesur yn newid hynny, trwy fynnu bod unrhyw wleidydd sydd wedi’i ganfod neu ei chanfod yn euog o ddweud anwiredd yn cywiro’r cofnod.

“Byddai methu â gwneud hynny, neu ddefnyddio celwydd dro ar ôl tro, yn arwain at gosb: dirwy, colli’r Chwip, neu am droseddau sylweddol, diswyddo.

“Mae 200,000 o bobl wedi arwyddo deiseb Compassion in Politics sy’n galw am gyflwyno’r Mesur, tra bod tri chwarter y cyhoedd yn cytuno bod angen y gyfraith, yn ôl arolwg diweddar gan Opinium.

“Mae’r cyhoedd gyda ni, fel y mae llawer o wleidyddion.

“Mae’r mesur hwn yn cynrychioli gwerthoedd gwirionedd, gonestrwydd a pharch.

“Os yw’r Llywodraeth yn cytuno gyda’r gwerthoedd hynny, byddant yn cefnogi fy nghynnig.”