Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd wedi beirniadu’r cynlluniau i ehangu unig stadiwm rasio milgwn Cymru.
Mae Valley Greyhounds yn Ystrad Mynach wedi cyflwyno cynlluniau i ehangu eu cyfleusterau fel rhan o’r nod o gael trwydded rasio broffesiynol.
Mae’r cynigion ar gyfer y stadiwm yn cynnwys bar ychwanegol, ystafell letygarwch, blwch newydd ar gyfer beirniaid a milfeddygfa.
Yn y Senedd ddoe (dydd Mercher, Hydref 26), dywedodd Delyth Jewell ei bod hi “wedi colli trac” o faint o e-byst mae hi wedi’u derbyn ynghylch yr estyniad.
“Fe ddywedoch chi, Weinidog, ar ôl eich penodiad, y byddech chi’n blaenoriaethu’r mater hwn yn gynnar yn nhymor y Senedd,” meddai cynrychiolydd Dwyrain De Cymru wrth ofyn cwestiwn i Lesley Griffiths, yr Ysgrifennydd Materion Gwledig.
“Pa gamau ydych chi’n eu cymryd i berswadio’r Cyngor ynghylch yr angen i gadw at ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i les anifeiliaid fel rhan o’r broses gynllunio, ac a allwch chi gadarnhau, pe na baech chi’n fodlon bod lles cŵn yn cael ei flaenoriaethu, y byddech chi’n barod i weithredu’n uniongyrchol i’w gwarchod?”
Wrth ymateb, dywedodd Lesley Griffiths nad oes modd iddi ymyrryd yn y cais cynllunio, gan mai mater i’r Cyngor yw hwnnw, ond y byddai hi’n annog y Cyngor i barhau i gynnal archwiliadau heb rybudd.
Cafodd wyth archwiliad eu cynnal heb rybudd rhwng Chwefror 2020 ac Awst eleni.
‘Cryfder teimladau’r cyhoedd yn gwbl glir’
“Mae cryfder teimladau’r cyhoedd ar y mater hwn yn gwbl glir, gyda degau o filoedd o bobol wedi llofnodi deisebau o blaid gwaharddiad, felly byddwn i’n annog Llywodraeth Cymru i beidio ag oedi ymhellach ac i ddechrau llunio’r ddeddfwriaeth hon ar unwaith,” meddai Delyth Jewell yn dilyn ymateb y gweinidog.
Mae’r elusennau achub cŵn Hope Rescue a Greyhound Rescue Cymru hefyd wedi lleisio barn ar yr estyniad.
Maen nhw wedi cychwyn deiseb yn erbyn y datblygiad fel “ple ar frys i’r cyhoedd i weithredu ac i warchod cannoedd o filgwn rhag anafiadau a marwolaethau diangen mae modd eu hosgoi”.
Yn ôl gwefan Valley Greyhounds, mae’r gwaith ar y stadiwm eisoes wedi dechrau, er gwaetha’r ffaith nad oes caniatâd cynllunio yn ei le eto.
Mae Valley Greyhounds yn gobeithio ennill trwydded gan Fwrdd Milgwn Prydain Fawr erbyn Ionawr 2024.
Mae elusennau achub cŵn wedi mynegi pryderon y bydd hyn yn “cynyddu” y rasio milgwn sy’n digwydd yn Ystrad Mynach.
Mae deiseb wahanol gan Hope Rescue yn galw am wahardd rasio milgwn yng Nghymru wedi denu dros 35,000 o lofnodion, ac mae disgwyl dadl yn y Senedd.
Mae disgwyl i’r penderfyniad ynghylch y cais cynllunio gael ei ddirprwyo i swyddogion cynllunio’r Cyngor ac iddyn nhw wneud y penderfyniad hwnnw erbyn Tachwedd 16.
Mae Valley Greyhounds wedi derbyn cais am ymateb.