Mae mudwyr benywaidd sy’n dioddef trais a chamdriniaeth ar sail rhywedd yn aml yn syrthio drwy’r bylchau, yn ôl adroddiad gan y Senedd.

Mae’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi lansio eu hadroddiad Trais ar sail rhywedd: anghenion menywod mudol heddiw (dydd Iau, Hydref 27), sy’n dweud nad yw strategaeth bresennol Llywodraeth Cymru ar drais domestig yn mynd i’r afael yn iawn ag anghenion menywod a phlant mudol.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith fod menywod mudol sy’n wynebu cam-drin domestig a thrais rhywiol yn aml yn cael eu hatal rhag cael cymorth, naill ai oherwydd dydyn nhw ddim yn gwybod beth yw eu hawliau neu dydyn nhw ddim yn gwybod ble i fynd am help.

Dywed y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru ddiwygio’u Strategaeth ar Drais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol i wella’r cymorth sydd ar gael i fenywod mudol.

Maen nhw hefyd yn rhybuddio bod y menywod hyn, sydd eisoes wedi’u heffeithio’n anghymesur gan drais a chamdriniaeth ar sail rhywedd, mewn perygl o gael eu gorfodi i ddioddef rhagor o niwed gan y sawl sy’n eu cam-drin, neu hyd yn oed gael eu masnachu.

Gwybodaeth a hawliau

Yn ôl y pwyllgor, mae normau diwylliannol, cam-drin mewnfudo ac iaith oll yn rhwystro codi ymwybyddiaeth o gyfreithiau Cymru a’r Deyrnas Unedig.

Mae menywod heb blant yn wynebu risg arbennig, gan eu bod yn cael llai o gyswllt ag ysgolion, ysbytai a gwasanaethau statudol eraill.

Mae’r pwyllgor yn dweud bod angen strategaeth Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod wneud mwy o waith ymgysylltu â chymunedau mudol er mwyn cyfleu’r neges i fenywod agored i niwed sy’n cael eu cam-drin.

Rhwystrau Iaith

Un o’r prif rwystrau yw nad oes llawer o wasanaethau cyfieithu ar y pryd ar gael i fenywod sy’n ceisio cael gafael ar gymorth.

Mae rhai menywod yn cael eu gorfodi i ddibynnu ar aelodau’r gymuned neu aelodau o’r teulu i gyfieithu ar eu cyfer, hyd yn oed pan fydd pynciau personol neu gyfrinachol yn cael eu trafod.

Mae’r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu cyfeiriadur o gyfieithwyr proffesiynol, fel bod modd cyfieithu materion cymhleth, sy’n aml yn gyfreithiol, yn gywir ac yn gyfrinachol.

Heb Hawl i Arian Cyhoeddus

Ar hyn o bryd, mae polisi Llywodraeth y Deyrnas Unedig ‘Heb Hawl i Arian Cyhoeddus’ (NRPF) yn gwahardd y rhai ar fisa priod neu fisa myfyriwr rhag cael mynediad at fudd-daliadau, cymorth digartrefedd a dyraniad tai cymdeithasol gan awdurdodau lleol.

Golyga hyn fod llawer o fenywod yn teimlo eu bod wedi’u caethiwo mewn perthnasoedd lle maen nhw’n cael eu cam-drin, heb wybod bod modd gofyn i’r Swyddfa Gartref hepgor statws Heb Hawl i Arian Cyhoeddus i gefnogi dioddefwyr trais a chamdriniaeth.

Mae’r adroddiad yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu cronfa argyfwng y gall darparwyr gwasanaethau Cymru gael mynediad ati mewn argyfwng i dalu am y costau llety a chymorth i oroeswyr trais ar sail rhywedd nes y bydd penderfyniad ar hepgor statws Heb Hawl i Arian Cyhoeddus y Deyrnas Unedig wedi’i wneud.

Angen dull wedi’i deilwra ar gyfer diogelu eu hawliau

“Clywsom dystiolaeth rymus fod llawer o fenywod mudol yn anymwybodol o’u hawliau; neu’n anymwybodol o’r hyn sy’n gyfystyr ag ymddygiad camdriniol,” meddai Jenny Rathbone, cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.

“Maent yn aml yn cael eu rhwystro rhag gofyn am gymorth, gan gyflawnwyr sy’n cymryd mantais o’u statws mewnfudo Heb Hawl i Arian Cyhoeddus i’w hatal rhag codi eu lleisiau neu eu cael nhw wedi’u taflu allan o’r wlad, hyd yn oed pan fo plant yn rhan o’r sefyllfa.

“Mae bregusrwydd y grŵp hwn o fenywod yn gofyn am ddull wedi’i deilwra ar gyfer diogelu eu hawliau.

“Mae angen mwy o ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o ba mor agored i niwed yw menywod mudol, gyda rhai ohonyn nhw mewn perygl o gaethwasiaeth a masnachu pobol.

“Mae’n hanfodol bod llais y goroeswyr yn cael ei glywed wrth ddatblygu polisi; dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod menywod mudol a’r rhai sy’n eu cefnogi yn parhau i gael eu cynrychioli ar bob lefel.”