Wrth i hynt a helynt San Steffan fyrlymu yn ei flaen, hawdd fyddai anghofio am gynlluniau mawr Llafur a Phlaid Cymru i ddiwygio’r Senedd a’n system etholiadol yma yng Nghymru – ond mae Adam Price o’r farn y gallai annog mwy o bobol i bleidleisio.
Ar yr wyneb, mae’r darn cyntaf yn hawdd – y bwriad yw cynyddu maint Senedd Cymru o’r 60 aelod presennol i 96, gyda chwotâu rhyw yn cael eu cyflwyno wrth i Mark Drakeford ac Adam Price geisio “creu Senedd fodern” gyda’r un nifer o ddynion a menywod yn y siambr.
Fodd bynnag mae yna gwestiynau wedi eu gofyn am y system newydd o ethol aelodau sy’n cael ei chynnig.
Dan y cynlluniau, byddai etholaethau yn etholiad y Senedd yn 2026 yr un fath â’r 32 etholaeth fydd gan Gymru yn Senedd y Deyrnas Unedig, sy’n cael eu cynnig gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru.
Y bwriad yw cyplysu’r etholaethau hyn er mwyn creu 16 o etholaethau i Senedd Cymru, gyda phob etholaeth wedyn yn ethol chwe Aelod.
Ac yn ôl y cynllun fe fydd system D’Hondt yn cael ei defnyddio gyda rhestrau ymgeiswyr caëedig– sy’n symudiad tuag at system gyfrannol o’i gymharu â’r drefn Cyntaf i’r Felin – yn cael ei mabwysiadu.
Dan y drefn ‘rhestrau ymgeiswyr caëedig’, fe fyddai pobol yn pleidleisio dros bleidiau ac nid unigolion, ac ni fyddai modd bwrw pleidlais tros wleidydd penodol.
Nod systemau cynrychiolaeth gyfrannol fel D’Hondt yw dyrannu seddi i bleidiau yn ôl tua’r un faint â nifer y pleidleisiau sydd wedi’u derbyn.
Yn fras, felly, pe bai plaid yn ennill traean o’r pleidleisiau yna dylai ennill tua thraean o’r seddi.
Mae sawl dull, gyda D’Hondt yn un ohonyn nhw, wedi’u dyfeisio sy’n sicrhau bod dyraniadau seddi’r pleidiau mor gyfrannol â phosibl.
Fodd bynnag, dull D’Hondt yw un o’r rhai lleiaf cyfrannol ymhlith y dulliau hyn, gan ei fod yn ffafrio pleidiau mawr a chlymbleidiau dros bleidiau bach.
Er enghraifft, o dan y system mae’n debyg y byddai’n rhaid i unrhyw blaid ennill oddeutu 12% o’r bleidlais mewn etholaeth er mwyn ennill sedd – rhywbeth allai brofi’n sialens i bleidiau megis y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd yng Nghymru.
Yn y cyfamser, gallai rhywun ddychmygu sefyllfa lle mae’r pleidiau mawr yn hawlio’r seddi yn eu cadarnleoedd, gan gipio rhan helaeth o’r chwech o seddi mewn sawl etholaeth.
Ac yn wir, mae adroddiad y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol, a gafodd ei gadeirio gan yr Athro Laura McAllister, yn cydnabod y byddai’r system yn “hwyluso pleidiau gwleidyddol cryf a chydlynus”.
Y cwestiwn, felly, yw ai system D’Hondt yw’r drefn ddylai gael ei mabwysiadu yma yng Nghymru?
‘Nid polisi Plaid Cymru yw rhestrau caëedig’
Mae cyflwyno’r system newydd yn rhan o gytundeb cydweithio Llafur a Phlaid Cymru, er gwaethaf y ffaith bod y cynlluniau mynd yn groes i addewid maniffesto’r Blaid i ddilyn argymhellion y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol i sefydlu system STV – single transferable vote.
Serch hynny, mae Adam Price yn mynnu bod y diwygio’n “gam mawr ymlaen” wrth i Senedd Cymru droi ei chefn ar y system Cyntaf i’r Felin.
“Y peth i’w gofio yw mai’r hyn roedden ni’n ddweud yn y maniffesto oedd beth fyddai llywodraeth Plaid Cymru yn ei wneud ac nid yn unig nad ydyn ni wedi ffurfio llywodraeth nag yn arwain llywodraeth, dydyn ni ddim yn rhan o lywodraeth chwaith,” meddai wrth golwg360.
“Rydyn ni’n flin ac yn siomedig wrth gwrs nad ydyn ni mewn sefyllfa i ddilyn ein rhaglen ni.
“Ond beth rydyn ni wedi medru ei wneud drwy’r cytundeb cydweithio ydi negodi gyda phlaid arall ystod o bolisïau sydd o leiaf yn symud i’r cyfeiriad iawn ac mae hwnna yn golygu cyfaddawdu.
“Rydyn ni wedi bod yn gwbl agored ynglŷn â hynny, nid polisi Plaid Cymru yw rhestrau caëedig, polisi Plaid Cymru ydi STV, a phe baen ni’n penderfynu ar ein pen ein hunain, dyna’r system y bydden ni’n mynd ati i gefnogi ac mae’n siŵr gen i y bydd hyn yn codi fel pwnc yn y dyfodol.
“Mi fydd yna gyfle eto i ni fel plaid ac i unrhyw blaid arall gynnig syniadau ynglŷn â diwygio etholiadol pellach.
“Ydi (system D’Hont) dal yn gam ymlaen? Wel, sylweddol felly. Felly er ein bod ni ddim yn cael popeth rydyn ni eisiau mae e dal yn cynrychioli cynnydd ac yn symud at sefyllfa lle rydyn ni’n cael gwared ar system Cyntaf i’r Felin.
“Mae cael system sydd ar sail cynrychiolaeth cyfrannog yn gam mawr ymlaen a bydd modd gwella’ wedyn.”
‘Ysbrydoli mwy o bobol i droi ma’s i bleidleisio’
Un o ddiffygion y system arfaethedig, yn ôl ei beirniaid, yw fod rhestrau caaedig yn golygu nad oes modd pleidleisio dros unigolion.
Yn yr un modd, fe fyddai chwe aelod yn cynrychioli pob etholaeth.
Mae rhai’n awgrymu y gallai hyn droi pobol oddi wrth gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd.
Ac o gofio mai dim ond 46.6% bleidleisiodd yn etholiadau’r Senedd yn 2021, dydy hynny ddim yn rywbeth all Cymru ei fforddio.
Fodd bynnag, y gwrthwyneb sy’n wir yn ôl Adam Price, sy’n credu y bydd y system newydd yn “ysbrydoli mwy o bobol i droi ma’s i bleidleisio”.
“Wel, dw i’n meddwl mai’r ffordd arall o edrych arno fe yw wrth gael gwared ar system Cyntaf i’r Felin mi fydd gennym ni system PR llawn am y tro cyntaf,” meddai.
“Fe fydd hyn yn golygu bod pob pleidlais yn cyfrif lle doedd hwnna ddim yn wir am ochr etholaethol [y Senedd], roedd gennych chi’r ail bleidlais wedyn oedd, i ryw raddau, yn ceisio lliniaru ar hynny oherwydd roedd gennym ni system hybrid.
“Beth fydd gennym ni nawr fydd system 100% PR fydd yn golygu y bydd pawb yn gallu teimlo bod eu pleidlais yn cyfrif.
“Mi fydd hefyd yn Senedd gytbwys o ran rhywedd ac mi fydd hwnna, dw i’n credu, yn ysbrydoli nifer fawr o bobol, pobol ifanc yn enwedig, menywod a hefyd dynion sydd eisiau gweld llais cydradd i fenywod.
“Felly dw i’n fwy optimistaidd, dw i’n fwy positif ynglŷn â’r hyn sy’n cael ei greu, a’r Senedd fodern, gydradd, Ewropeaidd ei naws sy’n edrych ymlaen at y math y genedl rydyn ni eisiau creu.
“Dw i’n credu y bydd hynny yn creu bwrlwm.
“Ydy e’n symud oddi wrth yr hen syniad San Steffan o’r aelod etholaethol? Ydy, wrth gwrs oherwydd bod gyda chi system lle fydd yna ddim un aelod etholaethol gyda chi ragor, fe fydd yna chwech.
“Fe fydd yna amrediad o bobol wahanol y gallwch chi fynd atyn nhw ac, ocê, mae hwnna yn newid ond dw i’n meddwl ei fod e’n newid sy’n mynd i ysbrydoli mwy o bobol i droi ma’s i bleidleisio achos mae e’n fy nharo i yn fwy cydnaws gyda’r math o gymdeithas bliwralaidd ydyn ni yn hytrach na’r syniad o fod gen ti un Aelod Seneddol.
“Dw i ddim yn credu fod hwnna yn gydnaws gyda’r oes sydd ohoni.
“Felly dw i’n meddwl y bydd rhagor o bobol yn cael eu tynnu mewn i wleidyddiaeth, yn arbennig os ydyn ni’n sicrhau nid yn unig Senedd gynhwysol o ran rhywedd ond hefyd yn cymryd y camau i sicrhau fod lleisiau eraill sy’n cael eu tangynrychioli yn rhan o’r ddemocratiaeth newydd yma.”