Mae Symposiwm Addysg Gymraeg i Bawb, a gafodd ei drefnu gan Gymdeithas yr Iaith, yn pwysleisio bod rhaid rhoi terfyn ar amddifadu 80% o blant Cymru o’r Gymraeg.

Wrth i Lywodraeth Cymru baratoi cynigion ar gyfer y Bil Addysg Gymraeg, mae Cymdeithas yr Iaith wedi cynnal Symposiwm ym Mae Caerdydd i drafod eu Deddf Addysg Gymraeg ddrafft eu hunain.

“Heddiw fe wnaethon ni glywed tystiolaeth ryngwladol gan Paul Bilbao Sarria o Wlad y Basg mai’r unig ateb i sicrhau siaradwyr hyderus yw addysg cyfrwng Cymraeg a bod modd mynd ag ysgolion Cymru i gyd ar daith i gyrraedd y nod hwn dros amser,” meddai Catrin Dafydd ar ran Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith.

“Mae’r Bil Addysg Gymraeg mae’r Llywodraeth yn ei baratoi yn gyfle i roi’r Gymraeg hyd at ruglder i’r 80% sy’n colli allan ar hyn o bryd.

“Y plentyn a’i ddyfodol ddylai fod yn ganolog i unrhyw benderfyniadau addysgol.

“Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod angen cael dewis rhwng addysg Gymraeg ac addysg Saesneg, ond chafodd 80% o blant erioed ddewis mewn gwirionedd.

“Mae rhoi’r Gymraeg hyd at ruglder i bawb yn fater o gyfiawnder cymdeithasol.”

‘Trin y Gymraeg fel iaith leiafrifol ddim bellach yn gynaliadwy’

Un fu’n siarad yn y digwyddiad yw Keith Bush, Cymrawd Cyfraith Cymru, a luniodd Ddeddf y Gymdeithas.

“Mae’n ymddangos i fi ein bod ni wedi cyrraedd man lle nad yw’n gynaliadwy, bellach, i drin y Gymraeg fel iaith ‘leiafrifol’,” meddai.

“Bellach mae ei statws yng Nghymru wedi datblygu’n statws iaith genedlaethol – un o ddwy iaith y mae angen i bob plentyn yng Nghymru fedru eu defnyddio’n effeithiol – o ran siarad, darllen ac ysgrifennu.

“Mae Cymdeithas yr Iaith wedi herio pwy bynnag sydd â gweledigaeth wahanol i esbonio sut mae cyfiawnhau amddifadu’r mwyafrif o blant Cymru, am amser amhenodol, o’u hawl gynhenid i addysg drwyadl Gymraeg.”

Yn ôl yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, fu’n cadeirio’r Symposiwm, rhaid cynllunio heddiw er mwyn cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.

“Yn y system addysg mae’n rhaid i ni osod nod heddiw er mwyn gallu cynllunio i gyrraedd ein huchelgais fel gwlad erbyn 2050,” meddai.

“Mae ymchwil – gan gynnwys ar lefel rhyngwladol – yn hollbwysig er mwyn cyflawni hyn.”