Fe ddaeth prosiect Llond Bol â’r gymuned ym Mhenygroes at ei gilydd am bryd o fwyd am y tro cyntaf neithiwr (nos Fercher, Hydref 26).
Bu criw o 14 o wirfoddolwyr yn bwydo 35 o bobol yn Neuadd Goffa Penygroes yn Nyffryn Nantlle, ac mae’r trefnwyr yn dweud ei fod wedi mynd tu hwnt i’w obeithion.
Ond nid cegin gawl yw prosiect Llond Bol, sy’n rhedeg dan fenter gymunedol Yr Orsaf, meddai Rheolwr Banc Bwyd Arfon.
Yn hytrach, mae’n rywle i bawb o bob oed ddod at ei gilydd, waeth beth yw eu sefyllfa.
Fe wnaethon nhw hefyd dderbyn bron i £50 mewn cyfraniadau ar y noson agoriadol, sy’n talu’r rhan fwyaf o gostau’r noson.
Bydd y nosweithiau’n rhedeg rhwng 5:30yh a 7:30yh bob nos Fercher.
Cymysgu’r cenedlaethau
“Aeth hi’n wych,” meddai Trey McCain, Rheolwr Banc Bwyd Arfon, wrth golwg360.
“Roedd e’n llwyddiannus iawn.
“Roedd hi’n lyfli ac roedd yr awyrgylch yn ffantastig efo amrywiaeth o bobol.
“Roedd yna dipyn o bensiynwyr, teuluoedd a thipyn ar ben eu hunain.
“Mae’n braf cael cymysgu’r cenedlaethau gwahanol.
“A gaethon ni’r cyfle i siarad efo’r bobol ddaeth mewn hefyd.”
Mae’r criw bellach yn edrych ymlaen at yr wythnos nesaf.
“Rydyn ni wrthi’n cynllunio a dw i’n mynd i gaffi sy’n cau lawr ym Mhenrhyndeudraeth i weld os oes adnoddau fyddai’n addas i helpu ni yn y neuadd,” meddai wedyn.
“Rydyn ni’n trio coginio pethau hawdd i ddechrau, ond gobeithio medrwn ni goginio pethau mwy cymhleth fel rydyn ni’n mynd ymlaen.
“Mae yna ambell wers i ddysgu am sut i beidio bod ar draws ein gilydd yn y gegin, ond dw i’n hapus iawn efo sut aeth hi.”