Mae’r iaith Gymraeg wedi cael ei chyflwyno i fusnesau, grwpiau a theuluoedd newydd ar draws Ynys Môn o ganlyniad i £250,000 o Gronfa Adfywio Cymunedol y Deyrnas Unedig.

Roedd Menter Iaith Môn yn awyddus i ymestyn y tu hwnt i’w rhwydwaith arferol er mwyn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg, ac mae’r gronfa wedi caniatáu iddyn nhw wneud hynny.

Mae bron i 60 o grwpiau cymunedol a busnesau wedi derbyn cymorth diolch i’r arian, ac mae gweithgareddau wedi eu cynnal i blant, pobol ifanc a dysgwyr Cymraeg mewn gwahanol ardaloedd i gynyddu diddordeb a chyswllt gyda’r iaith.

“Mae’r arian yma wedi caniatáu i ni ymestyn ein gwaith a chyrraedd cymunedau nad ydynt yn cael cyfle i ymwneud â’r Gymraeg yn aml,” meddai Elen Hughes, prif swyddog y Fenter Iaith.

“Ein bwriad oedd amlygu cyfleodd sy’n dod yn sgil defnyddio’r Gymraeg mewn addysg, gwaith a busnes ond hefyd yn gymdeithasol.

“Mae’r iaith yn bwysig i’n ffordd o fyw yma ar Ynys Môn, mae’n perthyn i ni gyd.

“Mae’n bwysig felly ei bod hi’n cael lle ym mhob agwedd ar fywyd.

“Ymysg yr uchafbwyntiau oedd diwrnod gohebu chwaraeon ar y cyd â Golwg yng nghwmni rhai o’n darlledwyr mwyaf poblogaidd ar gyfer disgyblion uwchradd yr ynys.

“Rydym hefyd wedi sicrhau cyfleoedd gwaith i saith o bobl ifanc yn ystod y prosiect, a chynnal sesiynau sgwrsio i ddysgwyr Cymraeg drwy gydol gwyliau’r haf yn Bragdy Cybi.”

Ymchwilio i statws yr iaith a’r defnydd ohoni ym Môn

Mae’r arian hefyd wedi galluogi Menter Iaith Môn i wneud gwaith ymchwil i mewn i statws a defnydd iaith ar yr ynys, a’r gobaith yw defnyddio unrhyw ganfyddiadau i helpu’r fenter a phartneriaid eraill i gynllunio eu gwaith i’r dyfodol a thargedu adnoddau i ardaloedd fydd yn elwa fwyaf o gryfhau’r Gymraeg.

Mae Menter Iaith Môn yn rhan o gwmni ehangach Menter Môn.

“Mae gwaith pwysig y fenter iaith yn rhan ganolog o’n cenhadaeth ni fel mudiad ac mae hyrwyddo’r Gymraeg wedi bod wrth wraidd Menter Môn ers ei sefydlu dros 25 mlynedd yn ôl,” meddai Dafydd Gruffydd, y Rheolwr Gyfarwyddwr.

“Mae’n dda gweld yr effaith gadarnhaol mae’r buddsoddiad diweddar yma wedi ei gael wrth gyrraedd grwpiau newydd.

“Os ydyn ni am i’r Gymraeg ffynnu yma mae’n rhaid i ni edrych y tu hwnt i’r ardaloedd a’r grwpiau arferol a mynd â’r iaith at gynulleidfaoedd newydd.”

Mae Menter Iaith Môn wedi cydweithio â phartneriaid dan faner Fforwm Iaith Môn i gyflawni nifer o’r gweithgareddau sydd wedi deillio o’r Gronfa Adfywio Cymunedol.

Eu gobaith wrth edrych tua’r dyfodol yw y bydd nifer o’r gweithgareddau yn gallu parhau er mwyn sicrhau cynnydd yn nefnydd y Gymraeg ar Ynys Môn.