Mae’r Blaid Lafur yn galw ar aelodau Cabinet Llywodraeth y Deyrnas Unedig fu’n gwasanaethu am rai wythnosau yn unig, gan gynnwys cyn-Ysgrifennydd Cymru, i wrthod taliadau diswyddo gwerth £17,000 wrth adael eu swyddi.

Mae gan aelodau o dîm Liz Truss a gollodd eu swyddi wrth i Rishi Sunak enwi ei Gabinet ddydd Mawrth (Hydref 25) hawl awtomatig i’r arian.

Roedd wyth ohonyn nhw ond wedi gwasanaethu yn y Cabinet ers dechrau mis Medi, a doedd gan y rhan fwyaf ddim cyfle i ddeddfu unrhyw bolisïau.

Mae rheolau’r Llywodraeth yn dweud y gall gweinidogion sy’n gadael dderbyn chwarter eu cyflog blynyddol fel taliad diswyddo.

Mae gan y Prif Weinidog hawl i £18,860 tra bod aelodau’r cabinet yn derbyn £16,876.25.

Ymhlith y rhai mae disgwyl iddyn nhw dderbyn taliad mae Syr Robert Buckland, cyn-Ysgrifennydd Cymru, cyn-Ysgrifennydd yr Amgylchedd Ranuk Kayawardena, a’r cyn-Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau Chloe Smith.

Treuliodd Robert Buckland chwe wythnos yn Ysgrifennydd Cymru tra bod Liz Truss yn Brif Weinidog, yn ogystal â rhai wythnosau yn nyddiau olaf Boris Johnson yn Brif Weinidog.

Ar wahân i hynny, mae yna alw i ddau weinidog yng Nghabinet diwethaf Boris Johnson, sydd wedi dychwelyd i’w hen swyddi, ddychwelyd eu taliadau diswyddo.

Mae Steve Barclay wedi dod yn ôl i swydd yr Ysgrifennydd Iechyd, tra bod Dominic Raab wedi cael ei ailbenodi’n Ddirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd Cyfiawnder.

Yn gynharach eleni fe wnaeth Michelle Donelan, sydd bellach yn Ysgrifennydd Diwylliant, osod cynsail ar gyfer fforffedu’r arian diswyddo.

Gofynnodd am beidio â’i dderbyn ar ôl cael gwybod ei bod hi’n gymwys yn awtomatig, er ei bod hi wedi gwasanaethu yn rôl yr Ysgrifennydd Addysg am 36 awr yn unig.

‘Corwynt o ymddiswyddiadau’

“Eto fyth, fe fydd yna orymdaith arall o weinidogion Torïaidd yn cerdded i ffwrdd gyda miloedd o arian trethdalwyr fel gwobrau am gatalog o fethiannau eu plaid,” meddai Angela Rayner, dirprwy arweinydd Llafur.

“Pe bai ganddyn nhw unrhyw synnwyr o gyfrifoldeb, fe fydden nhw eisoes wedi ei gwneud hi’n glir eu bod nhw’n gwrthod y taliadau yma.

“Pam ddylai’r cyhoedd orfod codi’r bil ar gyfer y corwynt o ymddiswyddiadau gafodd ei achosi gan anhrefn y Ceidwadwyr?

“Mae’n bryd i’r cyhoedd ym Mhrydain gael llais go iawn ar ddyfodol y wlad trwy Etholiad Cyffredinol.”