Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod adnoddau priodol yn eu lle, wrth i bryderon gynyddu am ledaeniad ffliw adar dros y gaeaf.
Daw’r alwad wrth i achos pellach o’r haint HPAI H5N1 gael ei gadarnhau ar safle ger Amlwch ar Ynys Môn yr wythnos hon, gan arwain at sefydlu parth gwarchod o 3km a pharth gwyliadwriaeth o 10km ar yr ynys gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r straen gyfredol o’r ffliw adar eisoes wedi ei hadnabod gan arbenigwyr fel yr un waethaf eto i daro gwledydd Prydain, gyda de-ddwyrain Lloegr wedi dioddef yn arbennig o wael o’r salwch.
Yn Swydd Norfolk yr wythnos ddiwethaf, roedd amcangyfrif o 500,000 o adar o ffermydd dofednod wedi eu difa o ganlyniad i’r haint, gyda rhybuddion gan y diwydiant y gallai nifer y twrcïod sydd ar gael ar gyfer y Nadolig haneru mewn nifer.
Yn ogystal ag achosion dros y misoedd diwethaf ar ffermydd ym Môn, Powys a Sir Benfro, mae cryn bryder wedi’i fynegi gan fudiadau fel yr RSPB am ledaeniad yr haint mewn adar gwyllt yng Nghymru.
Yr haf hwn, roedd sawl marwolaeth ar Ynys Gwales oddi ar Sir Benfro o ganlyniad i’r haint.
‘Agwedd bwysig o’r sector amaethyddiaeth’
Gyda phryderon yn cynyddu am ledaeniad pellach y ffliw dros fisoedd y gaeaf, cododd Cefin Campbell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, y mater yn ystod cwestiynau’r llefarydd amaeth ddoe (dydd Mercher, Hydref 26), gan alw am adnoddau pellach gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â lledaeniad yr haint yn y sector amaeth ac o fewn bywyd gwyllt.
“Mae’r diwydiant dofednod yn agwedd bwysig o sector amaethyddiaeth Canolbarth a Gorllewin Cymru,” meddai.
“Gyda chostau ynni eisoes ar gynnydd, yn ogystal â phrisiau ffîd, mae’r ansicrwydd ynghylch yr haint hon yn destun o gryn bryder i amaethwyr, a rhaid i’r Llywodraeth sicrhau bod adnoddau yn eu lle i ymdrin â’r haint.
“Fel Aelod dros ganran sylweddol o arfordir gorllewin Cymru – ardal o fri rhyngwladol am ei phoblogaethau adar morol prin – rwyf hefyd yn bryderus am yr effaith gall yr haint ei chael ar ein rhywogaethau adar gwyllt, a’r diwydiant twristiaeth gysylltiedig.
“Mae’r berthynas rhwng ymlediad haint mewn bywyd gwyllt ac o fewn amaethyddiaeth yn aml yn agos, a rhaid gweithio i sicrhau ymateb cytbwys i atal ymlediad pellach o’r haint.”
‘Pryder mwyfwy i ffermwyr’
“Rydym eisoes wedi gweld yn ne ddwyrain Lloegr y difrod sylweddol sydd wedi ei achosi i ffermydd gan y straen hon o’r inffliwensa adar – â miloedd ar filoedd o adar wedi eu difa,” meddai Mabon ap Gwynfor, llefarydd materion gwledig Plaid Cymru.
“Does dim dwywaith bod hwn yn bryder mwyfwy i ffermwyr yng Nghymru ar gyfnod cynyddol ansicr, ac mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn mynd ati i sicrhau bod cefnogaeth ac adnoddau priodol yn eu lle i gefnogi ffermwyr wrth i bryderon dyfu am ledaeniad yr haint dros y Gaeaf.
“Rhaid hefyd sicrhau nad yw’r galw hyn am adnoddau ychwanegol yn tanseilio ymdrechion i ymdrin â chlefydau eraill yn ei da fferm.”