Mae Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru yn cynnal eu dathliad lansio yn Senedd Cymru heddiw (dydd Iau, Hydref 27), i ddathlu’r hyn sy’n digwydd mewn perthynas â Diogelwch Cymunedol ledled Cymru.
Mae’r digwyddiad, sy’n cael ei lansio gan Sarah Murphy, Aelod o’r Senedd, yn cael ei gynnal rhwng 10yb ac 1.30yp, ac ymhlith y siaradwyr mae Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru; Alun Michael, Comisiynydd Heddlu’r De a chyd-gadeirydd Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru.
Byddan nhw’n myfyrio ar hanes y Rhwydwaith hyd yn hyn, a bydd y digwyddiad yn gyfle i arddangos yr arferion da sy’n digwydd ledled Cymru o fewn y maes diogelwch cymunedol.
Bydd yn cynnwys siaradwyr sy’n cynrychioli’r Heddlu, y Gwasanaethau Tân ac Achub, y Gwasanaeth Prawf, Llywodraeth Leol, y Trydydd Sector ac Iechyd.
Mae hwn yn gyfle i’r Rhwydwaith gymryd cam yn nes at gyflawni ei fwriad, sef dod yn llais strategol ar gyfer diogelwch cymunedol yng Nghymru, drwy gydweithio â’r aelodau i hyrwyddo a chefnogi partneriaethau diogelwch cymunedol a dylanwadu ar lunio a datblygu polisi cenedlaethol ac arferion lleol.
Caiff y Rhwydwaith ei oruchwylio gan Fwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru, sydd â’r nod o sicrhau y caiff arweinyddiaeth effeithiol ei darparu ar y cyd i helpu partneriaethau lleol sy’n hyrwyddo cymunedau diogel, cryf a hyderus.
Cadw cymunedau’n ddiogel
“Rwy’n croesawu lansiad swyddogol Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru,” meddai Jane Hutt.
“Mae’r Rhwydwaith yn chwarae rhan allweddol drwy ddod â phartneriaid diogelwch cymunedol ledled Cymru ynghyd, gan ddarparu arweinyddiaeth a chydlynu gweithgarwch ar draws yr amrywiol sefydliadau.
“Mae hyn yn cryfhau ein dull cydweithredol o sicrhau diogelwch cymunedol yng Nghymru, gan gefnogi partneriaethau effeithiol a galluogi dull ataliol o gadw cymunedau’n ddiogel.”
Yn ôl Jane Mudd, llefarydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru dros Gyfiawnder Cymdeithasol, “mae llywodraeth leol yn rhan hanfodol o ddiogelwch cymunedol”.
“Mae’r ffaith fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn gallu cynnal Rhwydwaith Cymunedau Mwy Diogel Cymru a chyd-gadeirio Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru yn dangos ein hymrwymiad i’r anghenion cenedlaethol, rhanbarthol a lleol sydd wrth wraidd diogelwch cymunedol, p’un a yw hynny’n ymddygiad gwrthgymdeithasol, yn drais neu’n gamfanteisio.
“Y gwaith ar y cyd â’r Rhwydwaith i lenwi’r bylchau nad oeddent yn hysbys ynghynt ar lefel genedlaethol yw’r rheswm pam bod y Rhwydwaith mor bwysig, ac mae’r cyfle i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn mor hanfodol.”
Yn ôl Sarah Murphy, Aelod o’r Senedd a noddwr y lansiad, “mae’r Rhwydwaith eisoes wedi dangos ei fod yn gyfrwng i dynnu mentrau Diogelwch Cymunedol ynghyd a rhannu gwybodaeth drwy’r holl bartneriaethau yng Nghymru”.
Mae Alun Michael hefyd wedi croesawu’r lansiad yn y Senedd.
“Mae’r Rhwydwaith yn bartneriaeth sy’n cael ei harwain gan Lywodraeth Leol a Phlismona yng Nghymru sy’n cynnwys partneriaid datganoledig a heb eu datganoli yn cydweithio,” meddai.
“Mae nifer o’r partneriaid hyn yn rhannu rhai datblygiadau cyffrous mewn diogelwch cymunedol.
“Fel cyd-gadeirydd Bwrdd Cymunedau Mwy Diogel Cymru, mae’n gyffrous gweld y cynnydd y mae’r Rhwydwaith wedi’i gyflawni o ran cyflawni argymhellion Adolygiad Diogelwch Cymunedol 2017 mewn cyfnod mor fyr.
“Drwy rannu’r hyn sy’n gweithio ledled Cymru, gallwn wneud ein holl gymunedau’n fwy diogel.”