Bydd pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn cael mynediad am ddim i blatfform cerddoriaeth ddigidol ddwyieithog newydd i’w helpu i ddysgu eu nodau cerddorol cyntaf.

Mae Charanga Cymru yn blatfform digidol sydd bellach ar gael am ddim i bob ysgol yng Nghymru fel adnodd addysgu a dysgu i gefnogi’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Cerddoriaeth.

Mae’r platfform dwyieithog wedi’i ddatblygu drwy waith partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Charanga a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

I helpu athrawon i ddod yn gyfarwydd â’r platfform newydd, bydd pecyn o adnoddau ar gyfer chwe wythnos o waith yn cael ei ddarparu i ddechrau ar gyfer pob un o’r camau cynnydd ym maes y Celfyddydau Mynegiannol yn y Cwricwlwm i Gymru.

Gall plant fwynhau canu, gwrando ac ymateb, byrfyfyrio, a chreu cerddoriaeth newydd.

Bydd yr adnoddau sy’n cael eu cynnig yn cynyddu wrth iddyn nhw weithio gyda mwy o artistiaid a chyfranwyr Cymreig.

Mae’r platfform yn cynnwys cynllun hyfforddi a datblygu proffesiynol helaeth ar gyfer athrawon ac ymarferwyr er mwyn sicrhau eu bod yn teimlo’n hyderus i ddefnyddio’r platfform i gefnogi cyflwyno gwersi cerddoriaeth yn ystod y dysgu yn yr ystafell ddosbarth.

Mae hefyd yn cynnwys fideos a nodweddion addysgu a dysgu wedi’u personoli.

Am y tro cyntaf, bydd y platfform hwn ar gael am ddim i ysgolion ledled Cymru, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Fel arfer, mae’n rhaid i ysgolion dalu ffi tanysgrifio i gael mynediad i Charanga – sy’n wasanaeth sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio’n helaeth mewn ysgolion ar draws y Deyrnas Unedig.

Bydd modd i bob athro yng Nghymru gofrestru a chael mynediad i’r platfform o heddiw (dydd Iau, Hydref 27).

Mae lansio’r platfform yn helpu Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru i ehangu mynediad i wersi cerdd ac addysg gerddoriaeth, gan sicrhau bod mwy o blant a phobl ifanc yn gallu elwa ar gyfleoedd i ddysgu chwarae offeryn a chanu a chreu cerddoriaeth yn ein hysgolion a chymunedau.

‘Adnodd gwych’

“Mae Charanga yn cael ei gydnabod yn rhyngwladol fel adnodd addysg cerddoriaeth digidol gwych,” meddai Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru.

“Rwy’n falch iawn ein bod yn gallu adeiladu ar y llwyddiant hwn gyda fersiwn gwbl ddwyieithog sy’n bwrpasol i Gymru, sydd â chynnwys a chyfraniadau diwylliannol cyfoethog gan gerddorion Cymreig.

“Rwy’n falch iawn y bydd pob athro a disgybl yn gallu defnyddio’r adnodd deniadol hwn am ddim a fydd yn ysbrydoli ein pobol ifanc i ddatblygu eu doniau cerddorol.

“Dyma’r cam diweddaraf wrth i ni weithredu’r Cynllun Cenedlaethol ar gyfer Addysg Gerddorol, ac mae’n un ffordd bwysig yr ydym yn sicrhau bod addysg gerddoriaeth ar gael i bawb, waeth beth yw eu cefndir neu ble maent yn byw.”

Cynllun Cerddoriaeth Cenedlaethol

“Wrth i Wasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol newydd Cymru gael ei gyflwyno, dyma fydd y cyntaf o’r hyn fydd gennym i’w gynnig i blant, pobol ifanc a chymunedau ledled Cymru dros y tair blynedd nesaf fel rhan o’r Cynllun Cerddoriaeth Cenedlaethol,” meddai Ian Roberts, Cynghorydd yn Sir y Fflint a llefarydd addysg Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

“Mae Charanga yn adnodd arbennig a fydd yn cefnogi addysgu cerddoriaeth i blant a phobol ifanc yn yr ystafell ddosbarth ac yn rhoi’r cyfle cyntaf iddynt brofi’r hyn y gall cerddoriaeth ac offerynnau ei roi iddynt.”

Yn ôl Mari Lloyd Pritchard, Cydlynydd Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol Cymru, “mae’n bwysig pwysleisio bod hwn yn blatfform digidol sy’n arbennig i ni yng Nghymru”.

“Nid cyfieithiad o’r llwyfan yn Lloegr a’r Alban yn unig ydyw, ond mae yna gynnwys sy’n gwbl Gymreig a hynny’n dangos y cyfoeth o brofiad a thalentau ffres sydd gennym,” meddai.

“Nid pawb sydd â’r hyder a’r arbenigedd cerddorol i allu dysgu cerddoriaeth yn y dosbarth, ond mae Charanga yn addas i bawb.

“Ein gobaith yw y bydd hyn, ynghyd â chefnogaeth amhrisiadwy gwasanaethau cerddoriaeth lleol, yn dod yn rhan annatod o fywyd cerddorol yr ysgol.”

‘Rhoi offerynnau cerdd yn nwylo miloedd o blant’

Dywedodd Mark Burke, Sylfaenydd Charanga:

“Mae wedi bod yn bleser pur gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cymdeithas Addysg Gerdd Awdurdodau Cymru ac athrawon ledled Cymru i ddatblygu’r platfform arloesol hwn.

“Bydd darparu mynediad at dechnoleg addysgol o safon uchel yn cefnogi buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn datblygiad proffesiynol i athrawon a’i chynllun uchelgeisiol i roi offerynnau cerdd yn nwylo miloedd o blant.

“Mae’r tîm yma yn Charanga yn hynod falch o fod yn rhan o’r prosiect.”