Mae angen i ddarlledwyr gydweithio â chwmnïau cynhyrchu teledu annibynnol mewn cyfnod economaidd anodd, yn ôl cynrychiolwyr y sector.
Heddiw (dydd Mercher, Hydref 26) yn y Llyfrgell Genedlaethol, yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddoedd TAC, sy’n cynrychioli’r sector cynhyrchu teledu annibynnol yng Nghymru, dywedodd y cadeirydd fod costau cynyddol yn cael effaith ar gwmnïau annibynnol.
Drwy gydweithio, byddai’n bosib cyflawni mwy gyda’r arian “sy’n prinhau”, gan barhau i roi gwylwyr a gwrandawyr yn gyntaf, meddai Dyfrig Davies.
“Mae’r heriau sy’n wynebu’r diwydiant gyda chostau cynyddol ar y sector yn cael effaith ar ein sefyllfa ni fel cwmnïau annibynnol yma yng Nghymru; mae’n gyfnod o wasgfa ariannol ac nid yw ein cyllidebau yn cynyddu wrth wneud rhaglenni, ac ni allwn basio hyn ymlaen i’n cwsmeriaid.
“Rwyf felly’n galw heddiw ar y darlledwyr i gydweithio gyda TAC a gyda’n cwmnïau cynhyrchu annibynnol i sicrhau nad yw’r wasgfa yn cael ei weld a’i deimlo ar y sgrin.
“Mae posib arbed amser ac yn fwyaf arbennig arbed arian drwy sicrhau cydweithio effeithiol gyda’r darlledwyr o fewn y prosesau comisiynu, ac mae hefyd angen ystyried y pwysau gwaith ar y gweithlu a llesiant ac iechyd meddwl aelodau’r cwmnïau.
“Mae’n bwysig i mi bwysleisio nad gweld bai ar unigolion o ran comisiynwyr a phenaethiaid yr wyf yn ei wneud, ond yn hytrach gofyn am gydweithio cadarn i greu a chadw at amserlen realistig a bod yn ymarferol o ran llwyth gwaith wrth greu rhaglenni.
“Yn y cydweithio a chynllunio effeithiol, gallwn gyflawni mwy am yr arian sy’n prinhau a pharhau i roi ein gwylwyr a’n gwrandawyr yn gyntaf gyda rhaglenni a chynnwys o’r safon uchaf. Safon ryfeddol o ystyried nad yw’r cyllidebau yn cynyddu dim.
“Mae TAC yn ddiolchgar iawn bod S4C a BBC Cymru wedi ymuno â ni yn y Cyfarfod Blynyddol heddiw fel bod modd i ni gael trafodaethau adeiladol ar y ffordd ymlaen yn y sefyllfa economaidd sydd ohoni er budd y sector a’r diwydiant darlledu yng Nghymru.”