Mae mam a gollodd ei mab ychydig flynyddoedd yn ôl yn gobeithio sefydlu gwasanaeth cyfeillio newydd i atal hunanladdiadau ymysg pobol ifanc.
Ers iddi golli ei mab drwy hunanladdiad, mae Kerry Davies-Jones yn ymgyrchu i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl ac yn gobeithio sefydlu gwasanaeth mentora neu gyfeillio.
Bu farw Kale Thomas ychydig ddyddiau ar ôl y Nadolig, yn 20 oed, ac roedd wedi bod yn dioddef o seicosis.
Cafodd ei ddarganfod yn ei fflat yn Amlwg y diwrnod ar ôl iddo gael ei anfon adref gan feddygon yn Ysbyty Gwynedd, Bangor ar ôl gorddos cyffuriau.
Bydd Kerry Davies-Jones yn siarad ym mhennod gyntaf Radio Fa’ma, cyfres newydd gan S4C a fydd yn cael ei chyflwyno gan Tara Bethan a Kristopher Hughes.
‘Peidio derbyn na fel ateb’
Dywed Kerry Davies-Jones, sy’n 43 oed, fod Kale wedi ymuno â’r Llynges Fasnachol ar ôl gadael yr ysgol a’i fod wedi teithio’r byd ond ei fod wedi dychwelyd adref i Amlwch.
“Roedd Kale yn sâl ac yn clywed lleisiau yn ei ben ac eisiau lladd ei hun,” meddai.
“Ar Ŵyl San Steffan 2018, aeth i’r ysbyty ac aros yno am sawl awr ond cafodd ei anfon adref yn hytrach na chael ei dderbyn i’r ysbyty.
“Y diwrnod canlynol, fe wnes i ffonio a ffonio ond doedd dim ateb felly aeth ffrind i’w fflat a dod o hyd i’w gorff.”
Dydy Kerry Davies-Jones ddim am i deuluoedd eraill fynd drwy’r un profiad â’i theulu hi.
“Dw i am godi ymwybyddiaeth am hunanladdiad a rhoi cyhoeddusrwydd i iechyd meddwl,” meddai.
“Rwy’n gobeithio dechrau gwasanaeth mentora neu gyfeillio i bobl ifanc yn eu harddegau.
“Dw i wedi cyfarfod ag Aelod Seneddol Ynys Môn, Virginia Crosbie, ac wedi trafod y peth efo hi.
“Mae’n ymddangos yn awyddus i’w weld yn symud ymlaen. Dw i’n credu ei bod wedi cael profiad tebyg gydag aelod o’i theulu yn cymryd ei fywyd ei hun.
“Dw i’n gobeithio fy mod i’n gallu pontio’r bwlch rhwng y cyfeirio gwreiddiol a’r sesiynau cwnsela.
“Ni chafodd Kale yr help oedd ei angen arno a chafodd ei droi i ffwrdd.
“Os oes gan unrhyw un arall yr un problemau mi ddylen nhw siarad efo pobol.
“Daliwch ati a gwthio, gwthio, gwthio am help a pheidiwch â derbyn na fel ateb.”
Radio Fa’ma
Sioe sgwrsio “wahanol” sy’n ymweld â gwahanol ardaloedd ledled Cymru ydy Radio Fa’ma, yn ôl y cynhyrchydd.
“Mae’r sgyrsiau yn gymysgedd o’r dwys a’r digri’ ac yn trafod pob math o bynciau,” meddai Emyr Gruffudd.
“Yn ogystal â’r sgyrsiau o’r rhaglenni radio mae portreadau o’r gwesteion yn eu cymuned, eu gwaith neu eu cartref, gyda phob gwestai yn cael cyfle hefyd i ddewis caneuon sy’n golygu rhywbeth arbennig iddyn nhw.
“Cyn y darllediad cafodd setiau radio eu dosbarthu ledled yr ardal ac yn ystod y caneuon cawn gyfle i ddod i wybod mwy am bob ardal a’r trigolion.”
Yn y rhaglen gyntaf o Amlwch, bydd Tara Bethan a Kristopher Hughes yn trafod materion iechyd meddwl gydag Elen Jones, fu’n dioddef o orbryder ac iselder yn ystod cyfnod ei arholiadau yn yr ysgol.
Bydd Richard Owain Jones, parafeddyg o Amlwch, yn siarad am ei waith yn achub bywydau hefyd, a bydd Julie Ann, postmon y dref a sefydlodd yr elusen Caru Amlwch, yn ymddangos yn y bennod.
Mae cyfraniadau gan Janet Jones, yn trafod yr heriau o fagu ei mab Sion Huw sydd â syndrom Down; y cerddor Marcus Peachy, sy’n gweithio â phobol ag anghenion addysgol ychwanegol; a John Pritchard, sy’n chwarae pêl-droed ar gerdded i Gymru.
Yn ystod y gyfres, bydd Radio Fa’ma yn gweld â Chwm Rhondda, Penygroes yn Nyffryn Nantlle, Nefyn, Castell Newydd Emlyn a Rhuthun hefyd.
- Bydd y bennod gyntaf o Amlwch ar S4C am 9yh ar Dachwedd 8.