Mae’r cyhoedd yn “siomedig” fod graffiti Prydeinig wedi cael ei sgrifennu ar ddrws siop lyfrau Gymraeg yng Ngwynedd.
Cafodd ‘Ie Prydain No Cymru’ a llun o Jac yr Undeb ei sgrifennu ar banel drws Siop Eifionydd ym Mhorthmadog dros nos ar nos Sul (Hydref 23).
Does yna ddim byd tebyg i hyn wedi digwydd o’r blaen, meddai Linda Edwards, perchennog y siop, wrth golwg360.
Ei hymateb cyntaf oedd gwylltio, cyn mynd i deimlo’n drist.
“Roeddwn i’n drist bod yr holl beth yn cael ei sgrifennu mewn Cymraeg cywir, sy’n gwneud i chdi feddwl bod o’n rhywun sy’n medru sgrifennu Cymraeg [ydy o],” meddai.
“Dydyn ni erioed wedi cael dim byd o’r blaen… ydy o’n ymateb i fy mod i wedi rhoi pethau Yma o Hyd yn y ffenestri? Dw i ddim yn gwybod.
“Mae lot wedi’i weld o [ar Facebook], ac mae ymateb y cyhoedd yn siomedig iawn, iawn.”
Does yna’r un siop arall wedi cael ei thargedu, hyd y gwyddai Linda Edwards, gan ddweud eu bod nhw wedi llwyddo i’w sgrwbio oddi ar y drws erbyn hyn.
“Dydy rywun ddim yn ei ddisgwyl,” meddai wedyn.
“Mae’n drist ei fod o wedi digwydd.
“Mae’r ymateb gan lot o’r cwsmeriaid, o fod wedi’i weld o ar Facebook, mae yna dipyn o dantro.
“Mae hi’n hen sefyllfa ddigalon bod o wedi cael ei sgrifennu.
“Mae’r siop yn mynd ers hanner can mlynedd, dw i ddim yma ers hanner can mlynedd, ond dydyn ni erioed wedi cael dim byd fel hyn o’r blaen.”