Mae Gina Williams, y gantores a chyfansoddwraig o Awstralia, wedi cael ei hysbrydoli gan Gymru i berfformio yn ei mamiaith, Noongar, wrth ymweld â Chanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd ddydd Sul (Hydref 30).

Bydd hi’n perfformio gyda’i phartner cerddorol, Guy Ghouse, fel rhan o ŵyl Llais – yr ŵyl gerddoriaeth a chelfyddydau rhyngwladol flynyddol.

Mae’r perfformiad yn cael ei gyflwyno fel rhan o Dymor Y Deyrnas Unedig/Awstralia, menter ar y cyd rhwng Cyngor Prydain ac Adran Materion Tramor a Masnach Llywodraeth Awstralia.

Daw’r perfformiad yma ddeng mlynedd wedi ymweliad Gina Williams â Chymru fel rhan o raglen Accelerate Cyngor Prydain, ac yn ystod yr ymweliad hwnnw gwnaeth hi benderfyniad a ‘newidodd ei bywyd’ i ddechrau perfformio yn ei mamiaith.

Mae Noongar yn un o ieithoedd prinnaf y blaned, sy’n cael ei siarad gan frodorion mewn cornel fach o dde-orllewin talaith Gorllewin Awstralia.

Erbyn heddiw, mae llai na 400 o bobol yn medru’r iaith.

Ond mae Gina Williams a Guy Ghouse ar ymgyrch i’w chadw trwy gân rhag iddi ddiflannu.

Mae eu cerddoriaeth yn rhoi gwedd fodern ar draddodiadau Aboriginaidd hynafol, gan blethu gitâr acwstig gyda llais a rhythmau naturiol yr iaith.

‘Ffeindio’r peth sy’n gwneud i dy galon guro’n gyflymach’

“Ces i sgwrs gyda boi hyfryd o Eisteddfod Genedlaethol Cymru,” meddai Gina Williams am ei chyfnod yng Nghymru.

“Buon ni’n siarad am yr iaith Gymraeg a’r cymariaethau rhyngddi â’r iaith Noongar, a’r ffaith ei bod ar fin diflannu.

“Fe soniodd e am sut y mae angen i ti ffeindio’r peth sy’n gwneud i dy galon guro’n gyflymach a mynd ar ôl hynny.

“Mae hynny’n creu argraff ar bobol, a dyna sut rwyt ti’n gallu adfywio dy iaith.

“I fi, doedd dim rhaid meddwl eilwaith.

“Ro’n i’n gwybod wedi hynny y byddwn i wastad yn canu yn fy iaith fy hun.

“Fe ddes adre i Awstralia, ac ro’n i’n gwybod beth ro’dd rhaid i fi ei wneud.

“Ers hynny, dw i wedi bod eisiau dod yn ôl i Gymru i berfformio achos fe roddodd Cymru rywbeth i fi a newidiodd fy mywyd ac a oedd yn wirioneddol bwysig.

“Oni fyddai’n fendigedig i ddod yn ôl i Gymru, ac fel ffordd o ddiolch i ddweud: ‘Dyma wnaethoch chi ei ddysgu i fi, ond dyma dw i wedi’i wneud gyda hynny’.

“Mae iaith yn enedigaeth-fraint.

“Dw i’n gwneud hyn achos mae’n bwysig, nid dim ond i fi, ond ar gyfer fy mhlant.”

Gyrfa

Bellach, mae Gina Williams wedi rhyddhau pum albwm ac wedi derbyn saith o Wobrau Diwydiant Cerddoriaeth Gorllewin Awstralia am ei chyfraniad i gerddoriaeth frodorol.

Mae hi wedi cydweithio gyda Guy Ghouse i ledu poblogrwydd yr iaith Noongar mewn ysgolion, gan gyfieithu rhai o ganeuon enwocaf y byd i’r iaith.

Yn 2021, fe wnaethon nhw gyd-gyfansoddi’r opera gyntaf erioed yn yr iaith Noongar, a chafodd yr opera ei pherfformio gan gwmni Opera Gorllewin Awstralia.

‘Profiad na ddylch ei golli’

“Mae’n ddeng mlynedd ers y bu Gina yma fel rhan o raglen Accelerate y British Council ac rydyn ni’n falch iawn fod Tymor Y Deyrnas Unedig/Awstralia wedi galluogi Canolfan Mileniwm Cymru i’w gwahodd hi’n ôl,” meddai Rebecca Gould, Cyfarwyddwr Dros Dro Cyngor Pyrdain Cymru.

“Mae hi wedi dweud ei bod, yn anad dim, eisiau dweud diolch wrth bobol Cymru, ac rydyn ni wrth ein bodd ein bod yn gallu cefnogi’r perfformiad yma.

“Gyda’i gilydd mae Guy a Gina yn perfformio cerddoriaeth sy’n plethu straeon hynafol gyda’r cyfredol – mae’n brofiad na ddylech ei golli.

“Rydym yn dymuno pob lwc iddyn nhw gyda’r sioe yma.”

Bydd Gina Williams a Guy Ghouse yn perfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddydd Sul, Hydref 30 ar Lwyfan Glanfa am 4.30yp.

Gallwch fynychu’r digwyddiad yma am ddim.